Y fersiwn Almaeneg o wefan Prifysgol Aberystwyth
Mae gwefan argraffu ar-lein Prifysgol Aberystwyth yn cynnig gwasanaeth mewn unarddeg iaith – ond ddim yn y Gymraeg.

Defnyddir y wefan gan fyfyrwyr a staff y Brifysgol i argraffu dogfenni neu roi arian yn eu cyfrif printio.

Mae modd i fyfyrwyr o Sweden, Norwy, Y Weriniaeth Tsiec, Yr Eidal, Ffrainc, Denmarc, Yr Almaen, Monaco a’r Iseldiroedd yn cael pori ar y wefan yn eu hiaith eu hunain.

Mae’r Brifysgol wedi dweud bod am ddarparu cyfieithiad Cymraeg o’r wefan ‘aberprint’, ond nid yw hyn wrth fodd un myfyriwr PhD…

‘Y Brifysgol yn ein trin yn eilradd’

Mae Jeff Smith, Cynghorydd Tref Aberystwyth sydd hefyd yn fyfyriwr PhD yn y Brifysgol, wedi cwyno i Wasanaeth Gwybodaeth y Brifysgol fod blaenoriaeth wedi ei rhoi i 11 o ieithoedd ar draul y Gymraeg. Dywedodd wrth golwg360:

“Mewn Prifysgol sydd yn honni ei bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal, mae hyn yn enghraifft arall o’r tueddiad i sefydlu rhywbeth newydd yn uniaith Saesneg ac anwybyddu’r Gymraeg – nes i rywun gwyno,” meddai Jeff Smith.

“Mae’r fath oedi yn annerbynniol ac yn dangos diffyg parch tuag at y Gymraeg a’i siaradwyr, ac rwyf, fel sawl myfyriwr arall, yn teimlo bod y Brifysgol yn ein trin ni yn eilradd.”

Ymateb y Brifysgol

Meddai llefarydd: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn buddsoddi mewn cyfarpar argraffu newydd er mwyn cynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a staff, a gwasanaeth sydd hefyd yn llawer mwy ynni-effeithlon.

“Mae darparu cyfieithiad Cymraeg o’r rhyngwyneb aberprint yn un o ofynion y prosiect argraffu. Nid yw’r meddalwedd fel y darperir gan Konica Minolta yn cynnwys cyfieithiad Cymraeg felly mae Prifysgol Aberystwyth yn darparu hyn ar gyfer Konica. Mae’r gwaith o ddatblygu’r rhyngwyneb hwnnw yn cael ei wneud ar hyn o bryd gan dîm mewnol ym Mhrifysgol Aberystwyth.”