Ian Watkins
Mae  cyn brif leisydd y Lostprophets Ian Watkins wedi cael ei ddedfrydu i gyfanswm o 35 mlynedd yn y carchar heddiw am gyfres o droseddau rhyw yn erbyn plant – gan gynnwys ceisio treisio babi.

Cafodd ei ddedfrydu i 29 mlynedd a bydd ar drwydded am chwe blynedd arall. Fe fydd Watkins yn gorfod treulio 20 mlynedd dan glo cyn cael gwneud cais am barol.

Wrth ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd prynhawn ma dywedodd y barnwr Mr Ustus Royce bod Watkins yn peri “risg sylweddol” i ferched ifanc a phlant ac nad oedd wedi dangos unrhyw edifeirwch am yr hyn a wnaeth.

Dywedodd y barnwr wrth Watkins a’r ddau ddifynydd arall bod cyfreithwyr a barnwyr wedi arfer delio gydag achosion “erchyll” ond bod y dystiolaeth yn yr achos yma “wedi torri tir newydd.”

Mae’r ddwy ddynes arall, 21 a 25 oed, yn yr achos – mamau’r plant a gafodd eu cam-drin – hefyd wedi cael dedfryd o garchar. Cafodd Mam A ei dedfrydu i 14 mlynedd yn y carchar a Mam B, 17 mlynedd dan glo. Ni ellir cyhoeddi eu henwau am resymau cyfreithiol.

Roedd y tri wedi pledio’n euog i gyfres o gyhuddiadau fis diwethaf.

‘Cynllwynio i gam-drin plant’

Clywodd y llys bod Watkins, 36 oed, o Bontypridd, wedi cynllwynio gyda’r ddwy ddynes i gam-drin eu plant.

Darganfu’r heddlu bod Watkins hefyd wedi cadw delweddau anweddus o blant ar ei gyfrifiadur gan gynnwys fideos.

Roedd Watkins wedi mynnu ei fod yn ddieuog gan ddweud y byddai’n brwydro i adfer ei enw da.

Ond fe blediodd yn euog i 13 o gyhuddiadau ar ddechrau’r achos yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Tachwedd.

Ers yr achos mae’r heddlu wedi lansio apêl yn gofyn i ddioddefwyr eraill a allai fod wedi cael eu cam-drin gan Watkins i gysylltu â nhw.

Maen nhw’n ymchwilio i nifer o achosion honedig eraill ar ôl derbyn nifer o adroddiadau gan gynnwys rhai yn America a’r Almaen.

‘Yr achos ddim ar ben’

Wrth ymateb i ddedfryd Ian Waktins dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Peter Doyle:

“Mae’r ymchwiliad wedi datgelu’r dystiolaeth fwyaf ffiaidd o gam-drin plant i mi erioed ei weld yn ystod fy 28 mlynedd fel swyddog heddlu.

“Nid yw’r ddedfryd heddiw yn golygu y bydd yr achos yn dod i ben ac mi fyddwn ni’n parhau i weithio’n ddiflino i geisio dod o hyd i ddioddefwyr eraill neu dystion.

“Mae ymchwiliadau hefyd yn cael eu cynnal gan heddluoedd ar draws y byd gan gynnwys yr Almaen a’r Unol Daleithiau.”

‘Uwchlaw dealltwriaeth’

Ac fe ddywedodd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throsedd yn ne Cymru fod angen i bobol roi gwybod i’r heddlu am unrhyw achos o gam-drin:

“Mae’r achos yma wedi datgelu lefel newydd o gam-drin sydd uwchlaw dealltwriaeth y rhan fwyaf o bobol, hyd yn oed mewn oes lle rydym ni wedi dod i ddeall natur ddieflig camdriniaeth plant.”

“Mae angen i bobol fod yn hyderus os ydyn nhw am roi gwybod i’r heddlu am achosion o gam-drin.”

Ymchwiliad

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) yn cynnal ymchwiliad i’r modd y gwnaeth Heddlu de Cymru ddelio gyda gwybodaeth am Ian Watkins.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Peter Vaughan,  bod yr heddlu wedi cynnal adolygiad yn 2012 i’r digwyddiadau a arweiniodd at arestio Ian Watkins a’u bod nhw wedi cydnabod bod rhai materion wedi bod yn achos pryder a’u bod wedi cyfeirio’r mater at yr IPCC.

Rydyn ni’n deall bod ’na ddiddordeb gwirioneddol gan y cyhoedd a phryder ynglyn a’r achos yma ac rydym wedi trafod hynny gyda’r IPCC.

“Mi fyddwn ni mewn safle i drafod ymhellach ar ôl i’r ymchwiliad gael ei gwblhau.”