Mae yna amheuon a fydd cynllun i drydaenddio y rheilffordd o Lundain i Abertawe yn cyrraedd Cymru o gwbl.

Mae disgwyl cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw gan yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Phillip Hammond am y cynllun.

Cafodd y cynllun £1 biliwn ei gyhoeddi gan y llywodraeth Lafur blaenorol ac mae ganddo gefnogaeth frwd Llywodraeth y Cynulliad.

Ond yn ôl ffynonellau papur newydd Evening Post Bryste ni fydd y rheilffordd yn cael ei drydaneiddio ymhellach na gorsaf Temple Meads yn y ddinas honno.

Yn ôl y papur newydd penderfynwyd nad oes achos busnes digon cryf i drydaneiddio’r rheilffordd drwy dwnnel Môr Hafren.

Ond yn ôl adroddiadau yn y BBC fe fydd y rheilffordd wedi ei thrydaneiddio yn cyrraedd Caerdydd – ond nid Abertawe.

Mae amseru’r cyhoeddiad ar Ddydd Gŵyl Dewi wedi codi gobeithion y bydd y rheilffordd yn cyrraedd Cymru.

Roedd y penderfyniad i fod i gael ei gwneud ym mis Tachwedd y llynedd ond cafodd ei ohirio bryd hynny.

Cadarnhaodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, fod disgwyl penderfyniad erbyn 4.30pm heddiw.