Rhian Duggan a'i gwr John ar eu fferm gerllaw Llandrindod (Llun: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru)
Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi ethol gwraig fferm o Sir Faesyfed yn Llywydd am 2014.

Mae Rhian Duggan o Crossgates, ger Llandrindod, yn un o chwech yn unig o ferched i ddal y swydd ers ffurfio’r Gymdeithas yn 1904.

Sir Faesyfed fydd yn noddi’r sioe y flwyddyn nesaf – am y pumed tro ers i’r sioe ymsefydlu yn Llanelwedd yn y sir yn 1963.

Mae Rhian Duggan wedi bod yn weithgar gyda’r Sioe ers blynyddoedd, yn ysgrifennydd pwyllgor Sir Faesyfed, ac yn un o lywyddion am oes y Gymdeithas. Mae hi hefyd yn is-lywydd Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Faesyfed.

Mae hi a’i gŵr John a’i mab Andrew yn magu gwartheg a defaid ar fferm 600 erw yn y sir ac yn rhedeg uned gynhyrchu wyau sy’n cynnwys 12,000 o ieir.

Y pum merch arall i ddal llywyddiaeth y Gymdeithas oedd y Dywysoges Elizabeth yn 1947; yr Arglwyddes Marion Phillips yn 1979; Mrs R W P Parry yn 1980; yr Anrhydeddus Sian Legge-Bourke yn 1997 a Kate Thomas yn 2009.