Castell Caernarfon
Mae darpar ymgeisydd y Blaid Lafur yn Arfon bellach wedi gadael y blaid, datgelwyd heddiw.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur yn Arfon bod eu hymgeisydd Alwyn Humphreys wedi penderfynu peidio â sefyll oherwydd ffrae fewnol.

Yn ôl cyn-gadeirydd Llafur Cymru, Tecwyn Thomas, ffrae rhwng aelodau’r blaid yn Ne Clwyd sy’n gyfrifol am ymadawiad diweddaraf Alwyn Humphreys.

Mae o wedi gadael y blaid o’r blaen – er mwyn ymuno â phlaid John Marek yn Wrecsam, Cymru Ymlaen.

“Mae rhywun wedi ei bechu fo’n fawr iawn,” meddai Tecwyn Thomas, sydd nawr wrthi’n ceisio dod o hyd i ymgeisydd arall i’r blaid yn etholaeth Arfon.

“Mae o wedi gadael y Blaid Lafur,” meddai, “oherwydd beth bynnag sydd wedi digwydd yn Ne Clwyd.

“Mae ffraeo mawr ’di bod yna ers blynyddoedd,” meddai Tecwyn Thomas, “ond ’sa pawb yn ymateb fel mae o ’di ymateb bysa neb ar ôl.”

Dywedodd Tecwyn Thomas ei bod yn lwcus nad oedden nhw wedi dechrau dosbarthu taflenni gydag enw Alwyn Humphreys arnyn nhw.

Roedd y rheiny eisoes wedi eu hargraffu, meddai.

Bwrw ei fol ar flog

Mae sylwadau Tecwyn Thomas yn cyd-fynd â’r honiadau ar-lein fod Alwyn Humphreys wedi ffraeo gydag aelodau eraill y blaid yn Ne Clwyd.

Wrth ymateb i’r honiadau ar-lein, dywedodd rhywun oedd yn galw ei hun yn ‘Alwyn’ ar flog Plaid Gwersyllt ei fod wedi ei siomi gan y blaid Lafur.

“Gobeithio na fydd fyth i ti ei brofi yn bersonol, ond mae brad yn beth anfaddeuol,” meddai, “yn enwedig os oes gennyt egwyddor.”

Aeth y sylw ymlaen i ddweud ei bod hi’n “deimlad uffernol darganfod fod rhywbeth y credaist ynddo mor ddiffuant, bellach yn seiliedig ar gelwyddgwn a putriscene pur!”

Dadl De Clwyd yn effeithio ar Arfon

Mae’r gwaith o benodi ymgeisydd newydd i Lafur yn Arfon ar fin dod i ben yn ôl Tecwyn Thomas.

Ond bydd yn rhaid ail-ddechrau’r broses o greu deunydd ymgyrchu, gan fod pamffledi gydag enw Alwyn Humphreys arnynt yn barod i’w dosbarthu pan gamodd o’r neilltu.

“Oedd ’na dipyn o arian ac amser ’di mynd [ar drefnu’r ymgyrch], ac o’dd y daflen bron yn barod i’w rhoi allan,” meddai Tecwyn Thomas.

Roedd Tecwyn Thomas yn dweud ei fod e’n syndod iddo glywed am benderfyniad Alwyn Humphreys trwy e-bost rhyw dair wythnos yn ôl.

“Ddoth o fel braw i fi,” meddai Tecwyn Thomas, “gafodd o ddim byd ond croeso yn yr etholaeth yn Arfon.”

Mae Llafur yn gobeithio cyhoeddi enw eu hymgeisydd newydd dros Arfon ar 9 Mawrth.