Mohammad Asghar
Mae CBI Cymru wedi wfftio galwad gwrthbleidiau Cymru am wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl banc.
Mae’r Blaid Geidwadol Gymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw heddiw am wyliau i ddathlu dydd Nawddsant Cymru.
Ond dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru, David Rosser, nad oedd hi’n bryd ystyried hynny tra bod Prydain gyfan yn parhau i ymdopi gyda’r argyfwng ariannol.
“Dyw ein haelodau heb drafod Dydd Gŵyl Dewi gyda ni yn ddiweddar,” meddai.
“Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yw adfer yr economi a sicrhau’r twf a’r swyddi y mae Cymru eu hangen ar fyrder.”
Mae’r Alban ac Iwerddon eisoes yn cynnal gwyliau banc ar ddyddiau Sant Andreas a Sant Padrig ac mae nifer wedi galw am yr un trefniant yng Nghymru.
‘Pysgodyn’
Dywedodd Mohammad Asghar, llefarydd treftadaeth y Ceidwadwyr Cymreig, y byddai addewid i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn ŵyl y banc yn cael ei gynnwys yn eu maniffesto.
“Cymru yw un o’r gwledydd mwyaf cudd yn y byd. Dw i wedi siarad â phobol yn China oedd yn meddwl ei fod yn bysgodyn,” meddai.
“Rydyn ni eisiau rhoi llawer iawn mwy o sylw i ddiwylliant a threftadaeth Cymru.
“Dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc yng Nghymru, gan roi’r cyfle i ragor o bobol ddathlu gyda ffrindiau a theulu.”
Dywedodd arweinydd y Dems Rhydd yng Nghymru, Kirsty Williams, fod gan 1 Mawrth arwyddocâd arbennig i’r wlad.
Dywedodd y byddai Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams, yn codi’r mater yn Nhŷ’r Cyffredin yfory.
Ychwanegodd y gallai’r ŵyl banc gael ei gynnal ar 1 Mawrth neu’r dydd Llun canlynol.
“Rydyn ni wedi credu ers amser hir y dylai Dydd Gŵyl Dewi fod yn ŵyl banc,” meddai.
“Fe fyddai’n gyfle gwych i arddangos ein diwylliant a’n treftadaeth, a chreu gŵyl fyd-eang sy’n dathlu popeth Cymreig.”