Mae mudiadau iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu mewn ymateb i’r ‘argyfwng’ sy’n wynebu’r Gymraeg – union flwyddyn ers i ganlyniadau’r Cyfrifiad ddangos bod cwymp yn nifer siaradwyr yr iaith.

Yn ôl canlyniadau Cyfrifiad 2011, roedd 562,000 (19%) o bobl yng Nghymru dros dair oed yn siarad Cymraeg o gymharu â 582,368 (21%) yn 2001.

Bydd hysbysebion yn ymddangos mewn nifer o bapurau heddiw, wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ofyn i’r Llywodraeth ddatgan ei bwriad i weithredu mewn chwe maes, er mwyn sicrhau bod yr iaith yn tyfu:

  • Addysg Gymraeg i Bawb
  • Tegwch Ariannol i’r Gymraeg
  • Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i osod esiampl trwy weinyddu’n fewnol yn Gymraeg
  • Safonau Iaith i Greu Hawliau Clir
  • Trefn Cynllunio er budd ein Cymunedau
  • Y Gymraeg yn greiddiol i Ddatblygu Cynaliadwy.

Hysbyseb

Dywed yr hysbyseb: Rydyn ni eisiau byw yn Gymraeg, ond mae amser yn brin. Rydyn ni’n colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn. Mae nifer y cymunedau Cymraeg wedi dirywio, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Blwyddyn ers canlyniadau’r Cyfrifiad, beth mae Carwyn Jones yn ei wneud i ymateb i’r argyfwng?”

Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Robin Farrar, o’r farn nad ydy Carwyn Jones o ddifrif am y Gymraeg:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn llu o adroddiadau swyddogol sy’n cadarnhau’r angen am newidiadau polisi sylfaenol” meddai.

“Ond er yr holl siarad, dydy Carwyn Jones ddim wedi gweithredu o ddifri er lles yr iaith. Mae’n hen bryd iddo ddangos arweiniad yn y chwe maes yma, er mwyn i bobl a chymunedau allu byw yn Gymraeg.”

‘Ymroddedig’

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei bod wedi cymryd camau ers canlyniadau’r Cyfrifiad i hybu’r Gymraeg.

Mae nhw’n cynnwys Y Gynhadledd Fawr – y drafodaeth genedlaethol gyntaf ynglŷn â’r iaith; cyhoeddi TAN 20 diwygiedig yn amlinellu’r hyn a ddisgwylir i awdurdodau cynllunio ei wneud o ran yr iaith Gymraeg; lansio ymgyrch gwybodaeth addysg gyfrwng Gymraeg, ac ymgyrch Twf Nadolig, yn annog rhieni i drosglwyddo rhodd y Gymraeg i’w plant.

Ychwanegodd: “Mae’n rhaid i Gymdeithas yr Iaith ddeall fod y rhai sydd yn y llywodraeth yr un mor ymroddedig ag y maen nhw i dwf yr iaith Gymraeg a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg. Nid y 1960au na’r 1970au yw hi.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda’r rhai sydd â diddordeb yn yr iaith i’w diogelu ar gyfer y dyfodol ym mhob rhan o Gymru.”

Dyfodol y Cyfrifiad

Mae’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol wedi bod yn ymgynghori ar ddyfodol y Cyfrifiad ac yn gofyn i bobol bleidleisio naill ai i barhau gyda’r drefn bresennol, sef cynnal Cyfrifiad pob degawd, neu ddefnyddio data gweinyddol gan arolygon sampl gorfodol.

Mae IAITH o’r farn fod parhau gyda’r Cyfrifiadau bob deng mlynedd yn allweddol er mwyn casglu data iaith oddi wrth bob cartref, lleihau’r risg i lefelau cywirdeb data mewn ardaloedd bychain,  a medru cymharu data iaith dros y degawdau.

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali yn Aberystwyth ddydd Sadwrn, Rhagfyr 14.