Darlun Google 1 Mawrth
Roedd Dydd Gŵyl Dewi Sant yn un o brif bynciau trafod gwefan rhyngweithio cymdeithasol Twitter heddiw.

Cyraheddodd y geiriau Cymraeg restr 10 uchaf pynciau llosg y wefan yn fyd-eang.

Roedd y geiriau #dyddgwyldewi a #stdavidsday yn cael sylw mawr hefyd, ar ôl i Lywodraeth y Cynulliad lansio ymgyrch i godi ymwybyddiaeth am Gymru drwy ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ogystal a hynny roedd logo peiriant chwilio poblogaidd Google wedi’i wisgo’n arbennig ar gyfer yr ŵyl. Roedd yr ail ‘g’ yn yr enw yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig.

Fis diwethaf cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad mai’r nod oedd gwneud Dydd Gŵyl Dewi yn un o’r pynciau Trydar mwyaf poblogaidd  ledled y byd ar 1 Mawrth, a’i godi i frig rhestr y pynciau llosg ar y wefan.

Roedden nhw hefyd wedi creu ‘Twibbon’ Dydd Gŵyl Dewi sy’n dangos baner Cymru a Chennin Pedr.

“Mae cyfryngu cymdeithasol yn ein caniatáu ni i ddechrau sgwrs fyd-eang yn trafod bod yn Gymry a’n balchder ein bod yn Gymry ar ein diwrnod cenedlaethol,” meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones.

“Rydyn ni am ddweud wrth y byd yr hyn sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig a phaham y dylent ymweld â hi!”