Mae academydd wedi creu detholiad o ddillad sydd wedi eu trin yn arbennig er mwyn denu pryfaid sy’n peillio.

Dywedodd Dr Karen Ingham o Brifysgol Fetropolaidd Abertawe ein bod hi’n gobeithio tynnu sylw at yr her sy’n wynebu pryfaid gan gynnwys gwenyn, pili-palaod, a phryfaid cannwyll.

Bydd pob dilledyn yn y detholiad Ffrogiau Peillio wedi eu gorchuddio â lluniau o flodau a’u gorchuddio â llewyrch symudliw sy’n gwneud i bryfaid feddwl eu bod nhw’n flodau go iawn.

Mae’r dillad hefyd wedi eu trin â sylwedd sy’n debyg i neithdar, gan gynnwys surcose a fructose.

“Mae yna lawer iawn o sylw wedi bod i’r sefyllfa anodd sy’n wynebu gwenyn y byd, ond mae yna lai o wybodaeth am yr her i bryfaid peillo eraill,” meddai Karen Ingham.

“Nid yn unig y mae pryfaid sy’n peillio yn chwarae rhan bwysig wrth gynhyrchu bwyd, maen nhw hefyd yn rhan hanfodol o iechyd a bioamrywiaeth ein blodau.”

Fe fydd y ffrogiau ar werth yn yr haf a bydd 10% o’r elw yn mynd at gyrff sy’n ceisio mynd i’r afael â phroblemau peillio a bioamrywiaeth.

“Mae’r profiad o gwrdd â pili pala yn un arbennig iawn a dw i ddim am golli hynny,” meddai Karen Ingham.