Leanne Wood
Tlodi bwyd fydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus nesaf yn ôl arbenigwyr iechyd, ac mae Leanne Wood yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn dilyn y nifer cynyddol sy’n defnyddio banciau bwyd.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod nifer y bobl sy’n defnyddio banciau bwyd yng Nghymru wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw bron wedi treblu – o 12,377 dros chwe mis yn 2012 i 32,500 am chwe mis yn 2013, yn ôl ffigyrau gan Ymddiriedolaeth Trussell.

Mae 11,000 o blant wedi defnyddio banciau bwyd yn ystod y chwe mis diwethaf yng Nghymru.

21ain ganrif – ansicr

Wrth siarad yn y Cynulliad yr wythnos hon, bydd Leanne Wood yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthweithio effeithiau polisïau “niweidiol” Llywodraeth Prydain, sydd wedi gorfodi miloedd o bobl yng Nghymru “i sefyllfaoedd argyfyngus.”

“Mae cyfuniad o effaith cynnydd mewn costau byw, toriadau llym a dim codiad mewn cyflogau yn golygu fod mwy a mwy o bobol yng Nghymru yn dibynnu ar roddion ac elusennau i allu bwyta,” yn ôl Leanne Wood.

“Rydym eisiau i Lywodraeth Cymru adolygu ei Strategaeth Wrthdlodi i gyflwyno mesurau fydd yn mynd i’r afael a phroblem tlodi bwyd. Nid yw’n iawn fod teuluoedd yng Nghymru yn yr 21ain ganrif yn y sefyllfa ansicr hon.”

Yn ol y blaid, mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cynllun bwyd cynaliadwy i warantu bwyd da am bris fforddiadwy i bobl ym mhob rhan o Gymru – byddai’n cynnwys cynlluniau cymunedol i dyfu bwyd, cyd-weithio gyda chynhyrchwyr bwyd,  â chefnogaeth i fentrau cynhyrchu cydweithredol oll yn fesurau allai ostwng cost bwyd.