Gwir Gymru
Mae mudiad Gwir Gymru yn dweud eu bod nhw’n parhau i wneud eu gorau glas i ledaenu eu neges, er gwaethaf sylw ‘anghwrtais’ ac ‘annheg’ yn y wasg.

Maen nhw’n ceisio annog etholwyr Cymru i bleidleisio yn erbyn rhagor o ddatganoli yn y refferendwm ddydd Iau.

Yr wythnos yma fe fydd y mudiad yn canolbwyntio ar ymgyrchu ar y strydoedd gyda mochyn llawn aer, ar ôl dweud eu bod nhw wedi methu a denu sylw ffafriol yn y cyfryngau.

“Mae sawl un o aelodau’r wasg wedi bod yn anghwrtais iawn gyda ni,” meddai Nigel Bull o’r mudiad.

“Mae’r prif gyfryngau cyn waethed ag unrhyw un, ac mae llawer o’r sylw yn y wasg wedi bod yn annheg.”

Dywedodd ei fod wedi ei gyfweld ar y radio ddydd Gwener a bod mwyafrif llethol y rheini alwodd yr orsaf i roi eu barn o blaid pleidlais ‘Ie’.

Fe fydd aelodau’r mudiad yn brysur yn dosbarthu pamffledi yng Nghwm Rhondda heddiw, meddai.

“Dw i’n edrych ymlaen. Mae Cwm Rhondda ymysg yr ardaloedd mwyaf ffrwythlon i’n hymgyrch ni,” meddai.

Heno, fe fydd y grŵp yn cyfrannu at ddadl ar BBC1 ac yn darlledu ar Real Radio a Radio Wales bore fory.

Yfory fe fydd aelodau’r mudiad yn ogystal â’r mochyn mawr ar dramp yng Nghoed Duon, ac fe fydd aelodau ar draws Gymru’n yn parhau â’r gwaith o rannu pamffledi, meddai.