Mae corff dyfarnu pennaf Cymru yn rhagweld y bydd disgyblion yn sefyll nifer cynyddol o arholiadau ar gyfrifiaduron yn hytrach nag ar bapur dros y blynyddoedd nesaf.

Daw hyn wedi i adran arholiadau San Steffan ddweud ei bod hi’n bryd i’r sgrin a’r bysellfwrdd ddisodli’r papur a’r beiro mewn ysgolion.

Fe ddywedodd Isabel Nisbet, prif weithredwr Ofqual, nad oedd disgyblion bellach wedi arfer defnyddio adnoddau ysgrifennu traddodiadol.

Fe allai parhau i’w defnyddio nhw olygu bod canlyniadau arholiadau TGAU a Lefela yn “annilys”, meddai.

Wrth ysgrifennu yn atodiad addysg papur newydd y Times wythnos diwethaf dywedodd mai cyfrifiaduron oedd “cyfrwng naturiol disgyblion heddiw er mwyn dod o hyd i wybodaeth”.

“Serch hynny rydyn ni’n parhau i gynnal arholiadau TGAU ar ddarn o bapur,” meddai.

“Mae yna berygl y bydd canlyniadau arholiadau yn annilys oherwydd bod cyfrwng inc a phapur yn mynd yn groes i’r modd y mae disgyblion yn dysgu.”

Os nad yw arholiadau yn cael eu cynnal ar gyfrifiaduron yn fuan, bydd paratoi ar gyfer arholiadau a dysgu yn cael eu cynnal ar wahân, meddai.

‘Buddsoddi’

Dywedodd llefarydd ar ran CBAC wrth Golwg360 eu bod nhw eisoes yn darparu rhai arholiadau ar-sgrin, mewn pynciau gan gynnwys Daeareg, Electroneg, Lletygarwch ac Arlwyo, Busnes a Thechnoleg Gwybodaeth.

“Credwn mai ni oedd y corff dyfarnu cyntaf i ddarparu unedau Uwch-Gyfrannol (AS) ar sgrin, yn 2009, ac yna Safon Uwch (Lefel A) yn 2010,” meddai llefarydd ar ran y corff.

Ychwanegodd eu bod nhw’n “buddsoddi’n sylweddol mewn gwaith datblygol er mwyn gwireddu’r potensial y mae asesiadau ar-sgrin yn ei gynnig”.

Ar hyn o bryd, mae llawer o asesiadau TGAU a TAG ar-sgrin wedi’u cyfyngu i bynciau lle nad oes nifer uchel o ymgeiswyr yn sefyll yr arholiad gyda’i gilydd.

Roedd hynny fel nad oes rhaid neilltuo gormod o gyfrifiaduron ar yr un pryd, meddai.

“Mater gwahanol fyddai darparu ar gyfer pynciau lle gall fod dros gant yn dilyn y pwnc.

“Ond mae yna ddatblygiadau technegol all fod o gymorth yn y sefyllfaoedd hynny hefyd – o fewn y degawd hwn, efallai y bydd yn bosibl danfon papur arholiad dros nos yn ddiogel at liniadur sy’n eiddo i’r myfyriwr, ac yna gall agor y papur arholiad ar sgrin ar yr amser priodol yn yr ysgol neu’r coleg y diwrnod canlynol.

“Dros y pum mlynedd nesaf, gallwn ragweld y bydd nifer cynyddol o bynciau lle bydd rhai o’r papurau arholiad TGAU a TAG ar gael ar-sgrin.”