Gyda llai na mis i fynd tan diwrnod Dolig, mae Plaid Cymru yn annog pobol i wneud eu siopa Nadolig yn lleol eleni er mwyn cefnogi siopau a swyddi Cymreig.

Mae Arweinydd Plaid Cymru wedi dweud fod cyfnod y Nadolig yn gyfle perffaith i gefnogi cwmnïau annibynnol Cymreig, a byddai rhoi £1 i siop sy’n gwerthu cynnyrch lleol yn rhoi dwbwl yr arian yn ôl i’r economi, o’i gymharu â gwario mewn archfarchnad.

“Mae cwmnïau annibynnol bach yn sail i economi Cymru ac yn cyfrannu llawer i’r economi leol,” meddai Leanne Wood.

“Pan mae arian yn cael ei wario mewn siopau annibynnol, lleol, mae’n aros yn lleol.”

Cyfle i greu miloedd o swyddi

Mae siopau sy’n cyflogi gweithwyr lleol yn prynu’n lleol ac yn cadw eu helw i gylchdroi yn yr economi leol, yn ôl Leanne Wood.

“Mae gennym ni draddodiad cryf o fasnachwyr bwyd a chrefftau yng Nghymru ac mae cyfle i brynu rhywbeth ychydig yn wahanol i beth sydd ar gael mewn siopau mawr.”

Os byddai’r Llywodraeth yn cynyddu nifer y contractau sy’n cael eu rhoi i gwmnïau lleol Cymreig o  52% i  75%, mae Plaid Cymru o’r farn y byddai 46,000 o swyddi newydd yn cael eu creu.

“Felly, mae’n rhaid i ni gofio fod gennym ni rôl bwysig i’w chwarae a chefnogi busnesau bach, drwy ddewis siopa hefo nhw.”