Parc y Scarlets yn Llanelli
Llanelli yw’r ‘lle mwyaf Cymreig’ yn y wlad, yn ôl cwmni sy’n gwneud yr honiad ar sail faint o bobol sydd â chyfenwau Cymreig sy’n byw yn y dref.

Dywed cwmni cyfeirlyfr rhifau ffôn 192.com mai Llanelli sydd â’r canran uchaf o bobol sydd â chyfenwau Cymreig.

Mae mwy o bobol o’r enw Jones, Williams, Davies, Evans, Thomas, Bevan, Griffiths, Hughes, Jenkins, Llewellyn, Owen, Powell, Price a Rees yn y dref nag unrhyw le arall.

Yn ôl y cwmni roedd gan 36% o bobol Llanelli enwau Cymreig. Castell-nedd ddaeth yn ail – mae gan 28% o’r bobol yno enwau Cymreig.

Yn ôl yr ymchwil y llefydd lleiaf Cymreig yng Nghymru yw Caerdydd a’r Barri. Dim ond 12.5% o bobol Caerdydd sydd ag enwau Cymreig, a 12.8% o bobol y Barri.