Y traciau'n wag
Mae cwmni trenau wedi rhybuddio teithwyr i wneud trefniadau eraill wrth i streic undydd ymhlith gyrwyr achosi anhrefn ar reilffyrdd Cymru.
Ac, yn ôl undeb ASLEF, maen nhw’n debyg o gyhoeddi dyddiadau ar gyfer rhagor o streiciau’n ystod y dyddiau nesa’.
Fe gadarnhaodd gwmni Arriva Cymru nad oedd yr un o fwy na 600 o yrwyr wedi dod i’w gwaith heddiw.
Fe fydd y gweithredu’n effeithio’n arbennig ar Gaerdydd a Chasnewydd gyda miloedd o bobol yn defnyddio’r trenau i gyrraedd y ddwy ddinas o’r Cymoedd.
Mae disgwyl y bydd tua 900 o deithiau Arriva Cymru’n cael eu canslo heddiw ac fe fydd rhywfaint o drafferthion fory hefyd wrth i bethau ddod yn ôl i drefn.
Ychydig o deithiau ddoe
Roedd yna ychydig o deithiau ddoe, er bod y gyrwyr wedi gwahardd gweithio ar ddyddiau seibiant a gweithio oriau ychwanegol. Roedd wyth wedi dod i’w gwaith.
Roedd hynny’n arwydd nad oedd pob gyrrwr eisiau gweithredu’n ddiwydiannol, meddai Pennaeth Gweithrediadau Arriva Cymru, Peter Leppard.
Roedd y cwmni’n siomedig bod y gyrwyr yn streicio, meddai, gan ddadlau bod y cwmni wedi cynnig cynnydd cyflog o 12% i’r gweithwyr.
Roedd trafodaethau hwyr yr wythnos ddiwetha’ wedi methu ag atal y streic – mae ASLEF a’r undeb rheilffyrdd arall, yr RMT, yn honni bod amodau wrth y cynnydd cyflog a bod gyrwyr Arriva Cymru’n cael llawer llai o gyflog na gyrwyr mewn rhannau eraill o wledydd Prydain.