Mae anghydfod diwydiannol wedi achosi anrhefn ar reilffyrdd Cymru heddiw, ac mae pethau’n debyg o waethygu yfory.

Fe fydd hyd at 900 o wasanaethau’n cael eu canslo wrth i aelodau Aslef sy’n gweithio i Drenau Arriva Cymru fynd ar streic am 24 awr yfory ar ôl gwrthod gweithio gor-amser heddiw.

Mae disgwyl y bydd y gweithredu diwydiannol yn effeithio ar wasanaethau fore dydd Mawrth yn ogystal.

Yn groes i’r disgwyl, fe lwyddodd Arriva i redeg nifer bach o wasanaethau yn y de a’r gorllewin heddiw, gyda gwasanaethau gwennol rhwng y Barri a Phontypridd, Pen-y-bont a Chaerdydd ar hyd reilffordd Bro Morgannwg, a rhwng Caerfyrddin ac Abertawe.

Dywed y cwmni fod nifer bach o yrwyr trêm wedi dod i’r gwaith.

Meddai Peter Leppard, Rheolwr Gweithrediadau Trenau Arriva Cymru: “Mae’r ffaith ein bod ni wedi gallu rhedeg nifer bychan o wasanaethau’n dangos nad yw pob gyrrwr trên yn cefnogi mynd ar streic. Fodd bynnag, rydyn ni’n dal i gynghori teithwyr trên i wneud trefniadau eraill ar gyfer dydd Llun.”

‘Siomedig’

“Rydyn ni’n dal yn hynod o siomedig bod ein cynnig hael wedi cael ei wrthod a bod y gweithredu diwydiannol gan Aslef wedi mynd yn ei flaen,” meddai Mr Leppard.

“Mae’r cynnig presennol, sy’n fwy na 12% dros ddwy flynedd, yn dod â chyflogau gyrwyr i £39,117 am wythnos 35 awr, bedwar diwrnod, ar gyfartaledd, ac mae’n dal yn agored i’w drafod ymhellach.

“Mae Trenau Arriva Cymru’n dal yn ymroddedig i gael ateb i’r anghydfod.”

Fe fu trafodaethau rhwng y cwmni a’r undeb yr wythnos ddiwethaf, ond ni lwyddwyd i gyrraedd cytundeb.

Caiff teithwyr trên eu cynghori i edrych ar wefan Trenau Arriva Cymru, www.arrivatrainswales.co.uk neu gysylltu â’r llinell ffôn genedlaethol ar 08457 48 49 50.

Rhybudd yr undeb

Dywedodd Stan Moran, un o swyddogion Aslef, ei fod yn disgwyl y bydd y streic yfory’n “100% solet”, gan rybuddio y bydd dyddiadau am weithredu pellach yn cael eu trefnu’r wythnos yma.

Fe fydd y gwaharddiad ar or-amser a gweithio ar ddyddiau gorffwys yn parhau am gyfnod amhenodol, gan daro gwasanaethau ar draws rhwydwaith Trenau Arriva Cymru, meddai.

Dywedodd fod y cynnig tâl o 12% yn cynnwys amryw o amodau, fel gwelliannau mewn perfformiad, a oedd yn dal yn ôl unrhyw gyfle am gytundeb.

Dywedodd hefyd fod gyrwyr sy’n cael eu cyflogi gan Arriva mewn rhannau eraill o Brydain yn ennill miloedd o bunnau’n fwy na’r rhai yng Nghymru.