Tommo, Shan Cothi, a Dylan Jones
Mae Betsan Powys, Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, wedi cyhoeddi newidiadau i’r orsaf “er mwyn ehangu ei hapêl.”

Fe fydd amserlen Radio Cymru o ddydd Llun i ddydd Gwener yn newid yn y gwanwyn gyda chyflwynwyr newydd yn ymuno â’r orsaf.

Fe fydd y darlledwr o’r byd radio masnachol, Tommo, yn cyflwyno rhaglen brynhawn newydd o ddydd Llun i ddydd Iau â Shân Cothi yn cyflwyno rhaglen fore newydd  o’r enw ‘Bore Cothi’.

Bydd  Dylan Jones yn aros ar yr awyr i gyflwyno rhaglen newydd ar ôl Post Cyntaf tan 10am, gan drafod pynciau’r dydd.

Dywedodd Betsan Powys y bydd yr orsaf yn fwy perthnasol i bobl Cymru – “fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun”.

Fe dalodd Betsan Powys deyrnged i’r cyflwynwyr hynny na fydd yn cael eu clywed mor aml ar yr orsaf, gan ddiolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u gwaith caled. Fe ymddiswyddodd Iola Wyn o’i rhaglen foreol ar Radio Cymru ddydd Llun. Dywedodd Betsan Powys y byddai Nia Roberts yn parhau’n “llais creiddiol” ar yr orsaf.

‘Ehangu apêl’

Daw cyhoeddiad Betsan Powys yn dilyn y Sgwrs pan gafwyd dros 1,000 o ymatebion ac mae’r sylwadau a chanfyddiadau’r ymchwil wedi cael eu hystyried wrth lunio’r strategaeth olygyddol newydd, meddai.

Wrth gyhoeddi ei gweledigaeth dywedodd Betsan Powys: “Adlewyrchu cyfoeth eich bywydau chi, ystod eich barn a’ch chwaeth chi fydd nod Radio Cymru, a chan fod hwnnw – diolch byth – yn ystod eang, mae’n rhaid mynd ati nawr i ehangu apêl Radio Cymru.”

Mae’n derbyn na fydd pob rhaglen yn apelio at bawb, “ond fe fydd pob un yno i bwrpas, i apelio at rywun.”

Pan ofynnwyd i Betsan Powys ar y Post Prynhawn i ymateb i bryderon am safon iaith Tommo, sy’n darlledu yn Saesneg ar hyn o bryd, dywedodd: “Mae ei iaith yn gwbl naturiol. Falle bydd ambell dreiglad yn anghywir ond prin ydyn nhw.”

Tommo

Tommo – sef Andrew Thomas o Aberteifi – fydd un o brif leisiau newydd yr orsaf ynghyd â’r ddarlledwraig Shân Cothi.

Dywedodd Tommo: “Mae cael sioe ar Radio Cymru fel ennill cap i Gymru – fi wedi gweithio’n galed i’r tîm lleol a nawr fi’n cael ware i’r tîm cenedlaethol! Mae’n ffantastic! Fi’n edrych mlân dod i nabod pawb a chwrdd â ffans Radio Cymru. Fi moen cael lot o hwyl a chwerthin a cherddoriaeth ar y sioe newydd a neud yn siŵr bod pawb yn joio – fi ddim yn mynd i adael tîm Cymru lawr.”

‘Sain gerddorol’

Pwysleisiodd Betsan Powys bod meithrin ‘sain gerddorol’ i’r orsaf yn holl bwysig i lwyddiant Radio Cymru.

“Gyda help llaw tîm Radio Cymru, dwi am weld yr orsaf yn magu ’sain gerddorol’ sy’n gyson, heb fod yn undonog, yn amrywiol heb fod yn fratiog ac anesmwyth i chi sy’n gwrando. Roedd honno’n neges gref ddaeth o’r Sgwrs. Y tu hwnt i’r oriau brig fe fyddwn ni’n arbenigo, yn arloesi ac yn cynnig rhywbeth cerddorol gwahanol.

“Byrdwn y Sgwrs oedd y dylai Radio Cymru fod yn orsaf sy’n chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn bennaf. Mae lle, meddech chi, i beth cerddoriaeth Saesneg ond ddim gormod. Felly y bydd hi.”

Yr amserlen newydd

Manylion amserlen newydd BBC Radio Cymru, o ddydd Llun i ddydd Gwener, s’yn dechrau yn y gwanwyn:

5am – 6am: Rhaglenni amrywiol

6am – 8am: Post Cyntaf gyda Kate Crockett a Dylan Jones

8am – 10am: Dylan Jones

10am – 12pm: Bore Cothi gyda Shân Cothi

12pm – 12.30pm: Rhaglenni sy’n holi a phrocio

12.30pm – 1pm: Rhaglenni Nodwedd/Drama

1pm – 2pm: Taro’r Post gyda Garry Owen

2pm – 5pm: Tommo (o ddydd Llun i ddydd Iau) a Tudur Owen (dydd Gwener)

5pm – 6pm: Post Prynhawn gyda Dewi Llwyd

6pm – 6.15pm: Pigion

6.15pm – 7pm: Rhaglenni Dogfen/Nodwedd

7pm – 10pm: C2

10pm – 12am: Geraint Lloyd