Mae tîm pêl-droed Prifysgol Caerdydd wedi cael eu gwahardd rhag chwarae am bythefnos wedi i siaradwr wneud jôcs am drais rhywiol a thrais yn y cartref mewn digwyddiad cymdeithasol.

Mae’r tîm hefyd wedi cael ei wahardd rhag chwarae yn erbyn Prifysgol Abertawe yn ei gêm rhyngolegol eleni.

Ac mae penaethiaid y Brifysgol wedi beirniadu’r clwb yn gyhoeddus am “dorri cod myfyrwyr y brifysgol”.

Mae’r clwb ei hun wedi cael gorchymyn gan y Brifysgol i ddatblygu hyfforddiant sy’n hyrwyddo dealltwriaeth o gydraddoldeb.

Honnir bod y sylwadau dadleuol wedi eu gwneud fel rhan o gyflwyniad PowerPoint mewn digwyddiad cymdeithasol mewn clwb nos yng Nghaerdydd ar 6 Tachwedd .

Roedd y clwb pêl-droed wedi trefnu’r noson ynghyd a Funky Arse Dancing, un o gymdeithasau dawns y Brifysgol.

Cafodd manylion yr hyn a ddigwyddodd eu cyhoeddi ym mhapur newydd myfyrwyr y Brifysgol, Gair Rhydd.

Meddai’r erthygl bod y cyflwyniad yn seiliedig ar un o aelodau’r clwb yn sôn am ba mor anobeithiol oedd gyda merched.

Yn ôl y rhai oedd yn bresennol, aeth yna ymlaen i sôn am sut mae adnabod merched gyda hunan-barch isel gan ei bod hi’n haws cael rhyw gyda nhw.

‘Cwbl annerbyniol’

Dywedodd aelod o’r grŵp dawns wrth Gair Rhydd: “Roedd y cyflwyniad yn gwbl annerbyniol. Cafodd pob un o’r merched eu gorfodi i eistedd yn y rhes flaen i wylio’r PowerPoint oedd yn gwneud hwyl am ben merched gyda hunan-barch isel, sbeicio diodydd merched , trais yn y cartref a hyd yn oed treisio.”

O ganlyniad, mae Steve Wilford, cyfarwyddwr aelodaeth Undeb y Myfyrwyr wedi gwahardd y clwb yn dilyn ymchwiliad.

Dywedodd llythyr a gafodd ei sgwennu ar ran Undeb y Myfyrwyr i bwyllgor y tîm pêl-droed: “Nid oes unrhyw gyfiawnhad am weithredoedd y rhai oedd yn ymwneud â darparu neu drefnu cyflwyno cynnwys o’r fath.

‘Siomedig’

“Nid oes unrhyw amgylchiadau lliniarol mai’r bwriad oedd cyflwyno’r cynnwys yn breifat ac rydym yn siomedig – er bod diffyg gwybodaeth am gynnwys y cyflwyniad ymlaen llaw – nad ydym ni wedi clywed unrhyw awgrym bod unrhyw unigolyn neu aelod o’r pwyllgor oedd yn bresennol wedi gwneud ymdrech i ymyrryd, a bod dim camau wedi eu cymryd yn dilyn y noson hyd nes i’r mater gael ei ddwyn i’n sylw ni.”

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Caerdydd: “Mae’r brifysgol yn ymwybodol o gŵyn a dderbyniwyd gan Undeb y Myfyrwyr ynghylch ymddygiad y clwb pêl-droed mewn digwyddiad cymdeithasol. Mae’r brifysgol yn condemnio unrhyw ymddygiad sy’n diraddio naill ai merched neu ein diwylliant o gydraddoldeb ac amrywiaeth.”