Mae GISDA, elusen sy’n cynnig cefnogaeth i bobol ifanc, yn un o chwech o grwpiau o Gymru sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer grant o £50,000 gan raglen Miliynau’r Bobl.

Os yn llwyddiannus bydd GISDA yn agor ‘Caffi  Ni’ er mwyn darparu profiad gwaith, sgiliau newydd, ac cheisio annog pobol ifanc i fyw bywydau annibynnol.

Mae’r rhaglen Miliynau’r Bobl yn cael ei ariannu gan Y Loteri Fawr a’r cyhoedd fydd yn dewis pa brosiectau fydd yn cael eu derbyn.

Caffi

Mae GISDA’n gobeithio creu caffi llawn cyfarpar i greu cinio a lluniaeth ysgafn a bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau coginio, dechrau eu busnes,  hylendid bwyd ac iechyd a diogelwch.

Dywed Sian Tomos, prif weithredwr GISDA: “Rydym ni yn galw ar bawb i bleidleisio ar gyfer ein prosiect ‘Caffi Ni’ ddydd Mawrth, 26 Tachwedd. Bydd yn siawns i bobl ifanc gychwyn a rhedeg menter gymdeithasol, gan roi cyfle iddynt ddatblygu sgiliau ac i dderbyn achrediadau mewn amrywiol feysydd.”

Mae chwe grŵp yng Nghymru wedi cyrraedd y rhestr fer yn ogystal a Gisda, gan gynnwys Fathers Reaching Out, Challenge Wales, Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin, Ymddiriedolaeth Action for Elders, a CBC Pinkspiration.

Bydd rhifau pleidleisio ar gael y diwrnod mae’r prosiectau’n ymddangos ar ITV, gyda llinellau pleidleisio’n agor am 9am a’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi y diwrnod wedyn.

Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru: “Bob blwyddyn mae Miliynau’r Bobl yn arddangos y gwaith gwych y mae prosiectau’n ei wneud i wneud gwir wahaniaeth yn eu cymunedau lleol, ac mae’r gystadleuaeth hon yn rhoi’r cyfle iddynt ddenu cefnogaeth gan gynulleidfa ar draws Cymru.

“Mae’r ystod o brosiectau llawn dychymyg ar restr fer Miliynau’r Bobl eleni’n rhoi cyfle go iawn i chi newid bywydau lleol. Rydym am i wylwyr ITV Wales Tonight ddangos eu cefnogaeth dros Miliynau’r Bobl a phenderfynu pa brosiect sydd â’r X-Ffactor yn ei gymuned. Mae pob pleidlais yn bwysig.”