Soar - ar ganol y gwaith adnewyddu
Mae’r holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer y perfformiad cynta’ mewn canolfan gelfyddydau newydd sydd hefyd yn arwydd o adfywiad y Gymraeg yn y Cymoedd.

Fe fydd 1,000 o bobol yn tyrru i Ganolfan Soar ym Merthyr Tudful i weld perfformiad o Les Miserables gan ddisgyblion Ysgol Gymraeg Rhydwaun yn Aberdâr.

Fe fydd agoriad swyddogol y ganolfan yn digwydd fory mewn hen gapel ac adeiladau eraill o’r ddeunawfed ganrif.

Yn ôl y trefnwyr, mae’n enghraifft unigryw o iaith a diwylliant yn cael eu defnyddio i roi hwb economaidd hefyd.

Beth sydd yn y ganolfan

Yn ogystal â theatr, stiwdios dawns a stafelloedd cerdd, fe fydd Soar hefyd yn gartref i Ganolfan Gymraeg Merthyr ac mae llawer o’r gweithgareddau gynta’ yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Fe fydd hynny’n cynnwys y syniad gwreiddiol o ddangos rhai o ffilmiau di-sain Charlie Chaplin a Buster Keaton gyda chapsiynau dwyieithog.

Fe fydd digrifwyr Cymraeg ymhlith y perfformwyr cynta’ hefyd, gyda Glyn Wise (o Big Brother gynt), Jams Thomas a Garry Slaymaker yn rhannu llwyfan.

Fe gymerodd hi bum mlynedd i gwblhau’r gwaith o addasu’r adeilad, gyda chymorth tua £1.5 miliwn o grantiau o wahanol ffynonellau.