Y geiriau wedi'u hadfer
Mae’r gofeb i bentref Tryweryn y tu allan i Lanrhystud ger Aberystwyth wedi cael ei hailbeintio, ar ôl i rywun baentio graffiti drosto bythefnos yn ôl.

Cafodd wyneb melyn yn gwenu a’r llythrennau ‘JK’ eu paentio ar y mur bythefnos yn ôl, gyda’r geiriau ‘Big Ballz’ hefyd wedi’u hychwanegu ar y wal.

Roedd hyn yn dilyn digwyddiad tebyg ym mis Awst, pan baentiwyd yr un geiriau ar y wal enwog.

Addawodd mudiad Balchder Cymru y bydden nhw’n  mynd yno i ailbeintio’r mur dros y penwythnos ar eu ffordd i’r Drenewydd i ddathlu bywyd Robert Owen, sylfaenydd y mentrau.

Ac roedden nhw’n driw i’w gair, gyda’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ bellach wedi cael eu hadfer.

Mae’r gofeb yno i goffau boddi Tryweryn yn 1965 er mwyn creu argae i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl.