Iola Wyn
Mae’r darlledwraig Iola Wyn wedi rhoi’r gorau i gyflwyno’i rhaglen ddyddiol ar Radio Cymru.

Mae’r newyddiadurwraig o Bow Street ger Aberystwyth wedi cyflwyno rhaglen ddyddiol rhwng 10.30yb a 12.30yp o stiwdio Caerfyrddin ers mis Hydref y llynedd.

Bydd y cyhoeddiad yn lledu’r sïon y bydd Andrew ‘Tommo’ Thomas o Aberteifi yn cymryd yr awenau yn y gorllewin wrth i Radio Cymru, o dan arweinyddiaeth newydd Betsan Powys, gyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer dyfodol yr orsaf radio ar ddiwedd y mis.

Mewn datganiad heddiw dywedodd Iola Wyn: “Rydw i heddiw yn cyhoeddi fy mod i’n rhoi’r gorau i gyflwyno Rhaglen Iola Wyn ar Radio Cymru.

“Diolch enfawr i’r criw cynhyrchu hynod o weithgar a chydwybodol o gwmni Telesgôp am eu gwaith diflino yn ystod fy nghyfnod wrth y llyw.

“Ac rwy’n diolch o waelod calon ac yn gwbwl ddiffuant i wrandawyr y rhaglen am eu cefnogaeth a’u ffyddlondeb.

“Pleser a braint oedd siarad â hwy yn ddyddiol.

“Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r rhaglen.”

Y darlledwr o Bontrhydygroes ger Tregaron, Ifan Jones Evans gyflwynodd rhaglen Iola Wyn ar Radio Cymru fore Llun.

Ymateb y BBC

Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: “Ry’n ni’n diolch i Iola Wyn am ei chyfraniad i Radio Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn dymuno’n dda iddi yn y dyfodol. Yn dilyn ei chyhoeddiad heddiw ry’n ni deall na fydd Iola’n dychwelyd i gyflwyno Rhaglen Iola Wyn, ond bydd Radio Cymru yn parhau i ddarlledu o’r gorllewin.

“Ry’n ni wedi dweud ar hyd yr amser y byddwn yn cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer Radio Cymru yn yr hydref. Ers y gwanwyn mae BBC Cymru Wales wedi bod yn casglu’r holl ymatebion i Sgwrs Radio Cymru ac yn eu hystyried ochr yn ochr â’r ymchwil radio mwyaf erioed yng Nghymru.

“Y nod yw amlinellu’r strategaeth olygyddol am natur yr orsaf a chadarnhau unrhyw newidiadau i’r amserlen yn fuan iawn.”