Lucy Landry
Cafodd miliwnydd o’r Unol Daleithiau laddodd ei wraig o Bontypridd ei garcharu am o leiaf 16 mlynedd heddiw.

Cafwyd Harold Landry, 65 oed, yn euog o ladd ei wraig Lucy Landry yn Llys y Goron Wolverhampton ddoe.

Dywedodd yr Ustus Foskett bod yr ymosodiad yn eu cartref ger Pershore, Swydd Gaerwrangon, yn “ofnadwy ac anfaddeuol”.

Clywodd Harold Landry na fyddai’n cael ei ryddhau ar barôl os oedd yr awdurdodau yn credu ei fod yn fygythiad i’r cyhoedd.

Daeth i’r amlwg ddoe bod Harold Landry wedi ei gael yn euog o saethu dyn arall pan oedd yn byw yn Covington, Louisiana.

“Rydych chi’n ymateb mewn modd treisgar ofnadwy pan ydach chi’n cael eich herio neu eich pryfocio,” meddai’r barnwr.

Beirniadodd y barnwr Harold Landry am ddweud yn ystod ei achos llys fod ei wraig wedi ei fygwth â chyllell cyn iddo ei thrywanu hi.

Cyfeiriodd at y ffaith bod Lucy Landry wedi dioddef y rhan fwyaf o’r 23 o glwyfau ar ei chorff wrth orwedd ar y llawr yn ceisio ei hamddiffyn ei hun.

“Does gen i ddim amheuaeth eich bod chi wedi bwriadu ei lladd hi,” meddai’r barnwr.

Mewn datganiad wedi ei ryddhau gan yr heddlu, dywedodd teulu Lucy Landry, 38 oed, ei bod hi’n berson “cynnes a phrydferth”.

“Mae’r ddedfryd yn rhyddhad. Mae wedi bod yn flwyddyn hynod o drawmatig i bawb ond mae Lucy wedi cael cyfiawnder o’r diwedd.”