Mae mudiad Balchder Cymru wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg eu bod nhw am ailbeintio’r slogan ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y wal enwog ar gyrion pentref Llanrhystud ger Aberystwyth.

Fis Awst eleni fe beintiodd rhywun wyneb melyn yn gwenu a’r llythrennau ‘J.K.’ ar y wal enwog sy’n cael ei adnabod yn rhan o dreftadaeth Cymru.

Yn fuan wedi’r digwyddiad hwnnw aeth Balchder Cymru ati i beintio dros y melyn ac adfer ‘Cofiwch Dryweryn’.

Yr wythnos ddiwetha’ roedd golwg360 yn torri’r stori bod wyneb melyn a’r llythrennau ‘J.K.’ ar y wal unwaith eto, yn ogystal â’r geiriau ‘Big Ballz’ yn is i lawr ar y dde y tro hwn.

Mae’r gofeb yno i goffau boddi Tryweryn yn 1965 er mwyn creu argae i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Mi fydd Balchder Cymru yn mynd yno i ailbeintio’r mur wythnos i yfory, ar eu ffordd i’r Drenewydd i ddathlu bywyd Robert Owen sylfaenydd y mentrau cydweithredol.

Yr hanes yn llawn yng nghylchgrawn Golwg.