David Jones
Mae ysbryd ‘Cymdeithas Fawr’ y Prif Weinidog, David Cameron, yn fyw ac yn iach yng Nghymru, mynnodd gweinidog yn y Swyddfa Gymreig.

Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, David Jones, bod Cymru yn arwain y ffordd wrth ddangos i weddill Prydain sut i hybu ymreolaeth a phenderfyniadau o fewn cymunedau.

Daw sylwadau’r gweinidog wrth iddo ymweld â thri chorff gwirfoddol yng Nghanolbarth Cymru.

“Rydw i wedi gweld â fy llygaid fy hun brawf fod pobol Cymru yn fodlon dod at ei gilydd er mwyn rhedeg gwasanaethau er lles y gymuned,” meddai.

“Nod y Gymdeithas Farw yw rhoi’r grym i i bobol gymryd rheolaeth yn eu cymunedau.”

Heddiw fe fydd yn ymweld â Chelfyddydau Gwirfoddol Cymru yn y Trallwng, prosiect Cydweithredol Trefeglwys ac Undeb Credyd Robert Owen yn y Drenewydd.

Dywedodd fod y prosiect yn Nhreglwys yn esiampl wych o Gymdeithas Fawr David Cameron ar waith.

Mae gwirfoddolwyr yno yn helpu i redeg y swyddfa bost, siop y pentref, y siop flodau a’r orsaf betrol.