Blaenau'r Cymoedd
Mae’r Ceidwadwyr wedi condemnio ffigurau sy’n dangos mai Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yw rhanbarth economaidd tlota’ gwledydd Prydain.

Mae’r ffigurau diweddara’ ar gyfer 2008 yn “feirniadaeth ddamniol” ar Lywodraeth Llafur a Phlaid Cymru yng Nghaerdydd, yn ôl eu llefarydd economaidd, Darren Millar.

“Mae angen i’r Prif Weinidog edrych yn galed ar y canlyniadau trychinebus hyn ac eglur pam fod y rhanbarth yma’n gwneud mor wael o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Gyfunol,” meddai.

Mae’n dadlau bod y ffigurau’n arbennig o wael o ystyried bod y rhanbarth wedi derbyn biliynau o bunnoedd o arian arbennig o Ewrop tros y blynyddoedd diwetha’.

Ymhlith rhanbarthau tlota’ Ewrop

Mae’r ffigurau’n dangos bod cynnyrch economaidd y Gorllewin a’r Cymoedd – GDP –  44 pwynt yn is na’r cyfartaledd trwy wledydd Prydain a 37 yn is na Dwyrain Cymru.

O ystyried mai 100 yw’r cyfartaledd trwy Ewrop, mae’r Deyrnas Unedig ar 115, Cymru gyfan ar 85 a Gorllewin Cymru a’r Cymoedd ar ddim ond 71.

Mae ymhlith chwarter tlota’ holl ranbarthau Ewrop sy’n sgorio’n is na 75. Dim ond un rhanbarth arall yn y Deyrnas Unedig sydd yn y categori hwnnw – Cernyw ac Ynysoedd Scilly.

Y tlawd a’r cyfoethog

Yn ôl y ffigurau yma, y rhan cyfoethoca’ o Ewrop yw Canol Llundain sydd ar 343 tra bod un rhan o Fwlgaria cyn ised â 28.

Ond mae Swyddfa Ystadegau’r Undeb Ewropeaidd yn rhybuddio bod pobol sy’n teithio i weithio yn ystumio’r ffigurau.

Er enghraifft byddai pobol o’r Cymoedd sy’n mynd i Gaerdydd i weithio yn cael eu cyfri’ o dan Gaerdydd, ac mae’r un peth yn wir am Lundain.

Beirniadu

Mae rhai pobol fusnes wedi beirniadu’r Llywodraeth yng Nghaerdydd am y ffordd y mae’r ardian Ewropeaidd wedi ei rannu.

Maen nhw’n dweud bod gormod wedi mynd i gyrff cyhoeddus i roi help ail-law i’r economi yn hytrach na mynd yn uniongyrchol i hybu busnes.

Yn ôl y Llywodraeth, mae’r ffigurau yng Nghymru’n adlewyrchu cwymp yng nghynnyrch economaidd cyfan gwledydd Prydain i gyd.