Dafydd Wigley - cyhuddo'r ymgyrch Na
Fe fydd y Prif Weinidog yn rhybuddio y byddai pleidlais ‘Na’ yn y Refferendwm Datganoli yn gwneud drwg i Gymru.

Fe fydd Carwyn Jones yn mynnu y bydd yna gost o wrthod cael system rwyddach i wneud deddfau yng Nghymru.

Ac mae un o arweinwyr yr ymgyrch ddatganoli wreiddiol yn 1997 wedi cyhuddo’r Ymgyrch Na o geisio mygu trafodaeth trwy wrthod creu ymgyrch swyddogol.

Roedd hynny’n golygu nad oedd y naill ochr na’r llall yn gallu derbyn arian cyhoeddus i ymgyrchu ac o ganlyniad doedd llawer o bobol ddim yn deall beth oedd yn y fantol.

Maen nhw hefyd yn ystumio’r ffeithiau, meddai Dafydd Wigley, cyn-Lywydd Plaid Cymru, gan fynnu nad oedd a wnelo’r Refferendwm ddim ag annibyniaeth.

Mae ef a Carwyn Jones yn dadlau mai holl bwynt pleidlais ‘Ie’ yw gwneud y broses gyfreithiol yn  symlach a chynt.

Rhybudd Carwyn Jones

Fe fydd arweinydd glowyr Pwll y Tŵr, Tyrone O’Sullivan, yn ymgyrchu gyda’r Prif Weinidog yn y Cymoedd hefyd.

Fe fydd Carwyn Jones yn dweud nad yw’r status quo yn ddewis – mae’n fater o fynd ymlaen neu yn ôl.

“Y peryg mawr yw bod pobol yn credu nad oes risg wrth roi pleidlais brotest,” meddai. “Does dim yn llai gwir na hynny.

“Os bydd pleidlais ‘Na’ fe fydd y drefn araf a chymhleth o wneud cyfreithiau’n mynd hyd yn oed yn waeth. Bydd gallu’r Cynulliad i wneud safiad tros Gymru’n lleihau.”

“R’yn ni’n gwybod nad oes gan Whitehall lawer o ddiddordeb yng Nghymru. Fe fyddai pleidlais ‘Na’ yn cadarnhau’r safbwynt hwnnw.”

Yr ymgyrch ‘Na’ yn gwadu

Mae arweinydd yr ymgyrch ‘Na’ wedi gwadu’r honiadau o fygu trafodaeth,  gan gyhuddo’r ymgyrchwyr ‘Ie’ o osgoi’r ddadl ‘go iawn’ – cyfeiriad datganoli yn y tymor hir.

“Fe ddylen ni fod yn cael y ddadl yna’n awr, nid wedyn,” meddai Rachel Banner, sydd wedi dweud yn gyson y byddai pleidlais ‘Ie’ yn gam tuag annibyniaeth.

Mae’n dadlau y byddai derbyn arian cyhoeddus wedi gwneud drwg i’w hymgyrch, a nhwthau’n dadlau bod Llywodraeth y Cynulliad yn gwastraffu arian.

“Pe baen ni wedi derbyn arian am rywbeth mor bitw ã chynnal swyddfa, fe fydden ni wedi cael ein beirniadu. Fe fyddai wedi bod yn rhagrithiol.”