Roger Lewis o'r ymgyrch 'Ie'
Mae cadeirydd yr ymgyrch o blaid pleidlais ‘Ie’ yn y refferendwm yr wythnos nesaf wedi rhybuddio nad dyma’r amser i laesu dwylo.

Wythnos i heddiw, ar 3 Mawrth, fe fydd y refferendwm ar ragor o bwerau deddfu i’r Cynulliad yn cael ei gynnal.

Mae polau piniwn yn awgrymu y bydd yr ymgyrch ‘Ie’ yn fuddugol ond mae yna hefyd bryderon mai nifer isel fydd yn penderfynu pleidleisio.

Dywedodd Roger Lewis fod angen ymdrech fawr arall er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am y refferendwm yn cyrraedd pobol Cymru.

“Rydym yn ennill y ddadl yn y refferendwm ond mae’n rhaid i ni barhau i weithio’n galed. Mae pob pleidlais yn cyfri ar 3 Mawrth”, meddai Roger Lewis.

“Mae’n rhaid i ni barhau i godi arian. Po fwyaf o arian y gallwn ei godi, po fwyaf y gallwn wario ar sicrhau ein bod yn ennill er mwyn Cymru.

“Dros yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi dosbarthu miliwn o daflenni ac mae mwy eto i’w dosbarthu rhwng nawr a diwrnod y bleidlais.

Galwodd ar wirfoddolwyr yr ymgyrch ‘Ie’ i “beidio a llaesu dwylo”.

“Dewch i helpu’r miloedd o wirfoddolwyr sydd am ennill pleidlais Ie dros Gymru ar Fawrth y 3ydd,” meddai.