Ray Davies (llun o wefan CND)
Fe fydd mudiad sy’n gwrthwynebu arfau niwclear yn cynnal protest pan fydd arweinwyr y corf milwrol NATO yn dod i Gymru.

Fe ddywedodd Ray Davies, dirprwy gyfarwyddwr CND Cymru y byddai’r mudiad yn yn picedu’r gynhadledd yn y Celtic Manor ger Casnewydd yr hydref nesa’..

“Cafodd NATO ei sefydlu i ddelio â phroblemau a ddeilliodd o’r Ail Ryfel Byd gan gynnwys y Rhyfel Oer,” meddai ar ôl cyhoeddiad Llywodraeth Prydain y byddai uwchgynhadledd nesa’ NATO yng Nghymru.

“Ond erbyn hyn dyw NATO yn ddim ond yn llefarydd ar gyfer y diwydiant arfau a dylwn ni ei osod yn bin hanes.

“Mae Cymru‘n wlad heddychlon a dydyn  ni ddim am i gynhadledd o’r fath gael ei chynnal yma.”