Mae ‘Sgiliau’r Dyfodol… gair yn ei bryd’ wedi cyhoeddi enw eu llysgennad cyntaf ar gyfer gwella sgiliau bwyd ac arlwyo yng Nghymru – cigydd ifanc o Langollen.

Tomi Jones, 23 oed, yw llysgennad cyntaf yr ymgyrch, sy’n cael ei redeg gan Brosiect Sgiliau Bwyd & Diod Cymru er mwyn ceisio dod i’r afael a bylchau sgiliau o bwys ar draws y sector bwyd a diod yng Nghymru.

Fel llysgennad bydd Tomi Jones yn cael ei gynnwys yn y gyntaf o gyfres o ffilmiau byrion yn amlygu’r rôl bwysig mae sgiliau’n ei chwarae yn y gwaith o greu gyrfaoedd hirdymor o ansawdd yn y diwydiant.

Cyfle i’r cigydd ifanc

Cychwynnodd Jones ei yrfa fel saer, cyn ailhyfforddi fel cigydd diolch i gymorth gan Twf Swyddi Cymru, gan ennill NVQ Lefel 2 a 3 mewn Cigyddiaeth gyda Hyfforddiant Cambrian.

Erbyn hyn mae gan Tomi dri phrentis dan hyfforddiant ei hun i’w hyfforddi yn y proffesiwn.

Ac mae’r cigydd arobryn o Langollen, a enillodd wobr Cigydd ifanc y Flwyddyn Cymru yn 2012, wedi ategu pwysigrwydd cyfleoedd fel hyn i bobl ifanc.

“Bu’n gyfle gwych i ddysgu’r sgiliau sydd eu hangen arnaf i wneud y swydd rydw i’n mwynhau ei gwneud ac i gael y cymwysterau a’r profiad ar yr un pryd,” meddai Tomi Jones.

“Mae cael tri phrentis yn gweithio gyda fi yn dipyn o gyfrifoldeb, yn enwedig gan fy mod mor ifanc. Nid oes llawer o bobl yn cael cyfle i wneud hyn, ond rydw i’n ei fwynhau ac yn mwynhau eu dysgu.

“Mae’n cael pobl oddi ar y stryd ac i mewn i swydd maen nhw’n hoffi’i gwneud.”

Ysbrydoli

Dywedodd Sian Roberts-Davies, Rheolydd Datblygu Busnes yn Lantra, fod Tomi Jones wedi bod yn ysbrydoliaeth.

“Rydym wrth ein bodd fod ein hymdrech i ddod o hyd i lysgenhadon i’r diwydiant wedi’n harwain at Tomi,” meddai. “Dylai dysgu am y pwys a roddodd ar hyfforddiant fod yn ysbrydoliaeth i bob un ohonom.”

Pwysigrwydd y diwydiant bwyd a diod

Trefnwyd ymgyrch ‘Sgiliau’r Dyfodol… gair yn ei bryd’ gan Brosiect Sgiliau Bwyd & Diod Cymru wedi i waith ymchwil ddangos fod bylchau sgiliau o bwys ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd a diod.

Wrth ymateb i’r ymchwil hwn, mae’r Cynghorau Sgiliau Sector sy’n cynrychioli’r diwydiant wedi dod at ei gilydd i annog proses o wella sgiliau tua 75,000 o weithwyr presennol yn ogystal â dod o hyd i weithwyr newydd i’r diwydiant erbyn 2020.

A dros y misoedd nesaf, bydd yr ymgyrch yn chwilio am 24 llysgennad newydd er mwyn amlygu pwysigrwydd sgiliau ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd a diod gyfan, o amaethyddiaeth ac ymlaen i weithgynhyrchu, manwerthu a lletygarwch.

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd cyflogwyr blaenllaw a chyrff aelodaeth yn ymrwymo eu sefydliadau i hyrwyddo manteision sgiliau ar draws y diwydiant bwyd a diod.

Rhyngddynt, mae’r holl fusnesau sy’n rhan o’r diwydiant bwyd a diod yng Nghymru yn cyflogi tua 230,000 o bobl, 18% o weithlu Cymru.

Mae hefyd yn cynhyrchu tua £6.5bn o refeniw gwerthiant bob blwyddyn, gan ei gwneud hi’n ddiwydiant sydd yn cyflogi’r nifer fwyaf o bobl yng Nghymru.