Mae hon yn wythnos arbennig yn hanes pentref bach Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin wrth iddyn nhw ddathlu hanner can mlwyddiant ers achub y lle rhag cael ei foddi.
Y gyfrol - Sefyll yn y Bwlch
Neithiwr daeth tyrfa dda ynghyd i Neuadd yr Eglwys Llangyndeyrn ar gyfer lansio cyfrol gan Hywel Rees am y gwrthsafiad, sef Sefyll yn y Bwlch. Mae’n adrodd hanes safiad di-ildio trigolion Llangyndeyrn wrth amddiffyn eu hardal.
Ar y pryd roedd Corfforaeth Abertawe eisiau creu argae a chronfa ddŵr i ardal Abertawe yno.
Byddai boddi’r ardal wedi golygu colli nifer o ffermydd, tai a thir amaethyddol arbennig o gyfoethog. Fe ddaeth pobl yr ardal at ei gilydd a brwydro yn heddychlon yn erbyn y fath fwriad, a llwyddo.
Dywedodd Gwynfor Evans am y digwyddiad:
‘‘Un o’r penodau disgleiriaf yn hanes diweddar Cymru yw’r modd yr amddiffynnodd pobl Llangyndeyrn eu cymdeithas a’u treftadaeth. Yr oedd yn batrwm o amddiffyniad, yn ei benderfyniad di-ildio, ei gydweithrediad ffyddlon a chlós, a’i ddyfalbarhad.’’
Arweinwyr
Y ddau arweinydd oedd y Cynghorydd William Tomos a’r Parchedig W. M. Rees. Wrth chwilio drwy bapurau ei dad daeth awdur Sefyll yn y Bwlch Hywel Rees ar draws ffeil werdd gyda’r geiriau yn ysgrifen fân ei dad ‘Hanes Brwydr Llangyndeyrn (1960-1965)’. Wedi darllen y sgript nad oedd wedi gweld golau dydd am dros ddeugain mlynedd, penderfynnodd Hywel Rees fynd ati i olygu’r gwaith a llenwi rhai bylchau er mwyn cyhoeddi cyfrol.