Creu 360 o swyddi newydd yn Abertawe

 


Swyddfeydd y cwmni yn Abertawe (o'u gwefan)
Mae cwmni arbed ynni yn y broses o gyflogi 360 o weithwyr newydd yn ardal Abertawe.

Bwriad Nationwide Energy Services yw cynyddu eu gwasanaeth ateb galwadau ac maen nhw wedi dechrau cyflogi gweithwyr newydd.

Fe gafodd y cwmni ei sefydlu yn Abertawe yn 2005 ac mae’n arbenigo ar roi cyngor i bobol am grantiau arbed ynni, a hynny ar draws gwledydd Prydain.

Mae’r gwasanaethau’n cynnwys gwybodaeth am yr arian sydd ar gael ar gyfer  inswleiddio cartrefi neu drin waliau gwag.

Maen nhw eisoes wedi cyflogi 60 o staff newydd ac yn chwilio  am 300 arall er mwyn delio gyda chymaint â 4,000 o ymweliadau â chartrefi bob wythnos.

“Mae’r ymgyrchu am effeithiolrwydd ynni wedi taro tant gyda pherchnogion cartrefi ar draws y Deyrnas Unedig ac felly mae ein busnes yn ffynnu,” meddai’r Rheolwr Gyfarwyddwr, Dean Price, mewn datganiad.

Mae gwefan y cwmni, sydd ym Mharc Menter Abertawe, yn cyhoeddi eu bod yn recriwtio ar hyn o bryd.

Erthyglau perthnasol

Sylwadau

Nid yw Golwg360 yn gyfrifol am y sylwadau isod nac o angenrheidrwydd yn cytuno â nhw.

Rheolau Cyfrannu | Nodi Camddefnydd

Rheolau Cyfrannu

Gofynnwn yn garedig i ddarllenwyr wneud defnydd doeth o’r gwasanaeth sylwadau – ni ddylid ymosod ar unigolion na chynnwys unrhyw sylwadau a all fod yn enllibus. Meddyliwch cyn teipio os gwelwch yn dda.

Er mwyn cael trafodaeth dda, gofynnwn i chi ddefnyddio eich enw go iawn a pheidio â chuddio y tu ôl i ffugenwau.

Gofynwn yn garedig i bawb ddarllen canllawiau Cyfrannu i elfennau rhyngweithiol Golwg360 yn ofalus cyn gadael sylwadau ar y gwasanaeth.

Iawn

Nodi Camddefnydd

Os ydych chi’n credu bod y neges yma’n torri rheolau’r wefan, cliciwch ar y faner nodi camddefnydd sy’n ymddangos wrth sgrolio dros unrhyw sylwad. Os bydd tri pherson yn anhapus, bydd y neges yn dod yn ôl at Golwg360 i’w ddilysu.

Iawn

Owain Glyn Dŵr a dysgu hanes Cymru – darlith Dr Elin Jones