Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, wedi dweud ei bod hi’n meddwl bod polisi “chwythu’r chwiban” newydd gwasanaeth iechyd Cymru yn “rhy gymhleth.”
Daw ei sylwadau wedi i BBC Cymru ddarganfod bod doctoriaid yn poeni y gallai’r polisi wneud i bobl feddwl ddwywaith ynglŷn â chodi pryderon am ofal gwael.
Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) gallai’r polisi wneud i bobl deimlo o dan fygythiad neu’n ddryslyd.
Cyhoeddwyd polisi chwythu chwiban ym mis Gorffennaf gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru Mark Drakeford.
Meddai Kirsty Williams AC ei bod hi’n dal i gael ei “hargyhoeddi” os yw’r polisi wedi ei gwneud hi’n haws i staff y GIG i ddod ymlaen gyda phroblemau maen nhw’n eu gweld yn eu gweithle.
‘Rhy gymhleth’
“”Mae’n hanfodol bod staff sy’n gweithio o fewn y GIG yn teimlo eu bod yn gallu mynegi eu pryderon,” meddai.
“Dylai chwythu’r chwiban fod yn broses mor syml ag sy’n bosibl ond rwy’n pryderu bod y broses newydd hon yn rhy gymhleth.”
Ychwanegodd Kirsty Williams ei bod hi’n hen bryd i Lywodraeth Cymru roi arweiniad ar y mater gan fod y digwyddiadau yn ysbytai Ymddiriedolaeth Canol Swydd Stafford wedi tynnu sylw at bwysigrwydd gallu staff y GIG i rannu eu pryderon.
Meddai: “Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi galw’n gyson am i Gymru gael llinell gymorth i staff y GIG. Ar hyn o bryd, nid yw’r opsiynau sydd ar gael ar gyfer y rhai sydd eisiau lleisio pryderon gwirioneddol yn ddigon cydlynol. Mae angen un pwynt cyswllt i Gymru gyfan.”