Simon Brooks - 'angen llefydd uniaith'
Mae dwyieithrwydd yn tanseilio’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd, meddai’r academydd Simon Brooks ar drothwy lansiad cyfrol wleidyddol newydd ‘Pa beth yr aethoch allan i’w achub?’.

“Mae angen rhai ardaloedd a sefyllfaoedd ble mae’r Gymraeg yn unig yn cael ei defnyddio – dyna sut mae ieithoedd go iawn yn byw,” meddai.

Mae’r casgliad o erthyglau yn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011 a olygwyd gan Brooks a Richard Glyn Roberts, wedi’i gyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch, ac yn cynnwys cyfraniadau gan rai o brif feddylwyr y mudiad iaith.

Ac wrth siarad gyda Golwg360 y prynhawn yma, fe bwysleisiodd y darlithydd o Brifysgol Caerdydd mai bwriad y gyfrol newydd yw herio a chodi cwestiynau am y ffordd o ddelio gyda’r sefyllfa bresennol.

Priod iaith

Un o’r prif syniadau sy’n treiddio drwy’r gyfrol yw’r syniad o’r Gymraeg fel ‘priod iaith’, sef bod angen i’r Gymraeg gael ei thrin yn wahanol i’r Saesneg, rhywbeth nad yw dwyieithrwydd yn cydnabod.

“Mae dwy iaith yn cael ei siarad ar lefel eang yma yng Nghymru, ond dim ond un sy’n unigryw i’r wlad honno,” meddai Simon Brooks.

“Does dim rhaid i bob dim fod yn ddwyieithog – a dweud y gwir mae’n hollol annaturiol i unrhyw iaith wneud popeth yn ddwyieithog, dyw hyn ddim yn sefyllfa gewch chi unman arall yn y byd.

Mae’n dweud bod lle i addysg Gymraeg yn unig mewn rhai ysgolion, neuaddau preswyl fel Pantycelyn sy’n gyfangwbl Gymraeg, a hyd yn oed arwyddion Cymraeg yn unig mewn rhai ardaloedd.

“Mae’r syniad o’r Gymraeg fel priod iaith yn un difyr – mae’n cyfiawnhau gwneud pethau mewn Cymraeg yn unig,” meddai.

Senedd i siaradwyr Cymraeg?

Mae Simon Brooks hefyd wedi cefnogi un o’r dadleuon eraill yn y gyfrol – syniad Ned Thomas, sy’n galw am sefydlu Senedd etholedig i siaradwyr Cymraeg er mwyn cynrychioli eu dymuniadau ac ychwanegu mewnbwn ar ddeddfwriaeth sy’n dod o’r Cynulliad.

Mae model tebyg i’w gael yn y Ffindir, ble mae gan siaradwyr lleiafrifol Swedeg senedd o’r fath i’w cynrhychioli hwy.

“Mae’n rhywbeth fyddai’n hawdd ei drefnu, ac fe fyddai pobol yn medru nodi a ydyn nhw’n siaradwyr Cymraeg neu ddim – fyddai dim prawf nac unrhyw beth felly,” esboniodd.

Cyfrol heriol

Mae’r casgliad yn cynnwys ysgrifau gan y golygyddion Simon Brooks a Richard Glyn Roberts, yn ogystal a Patrick Carlin, Iwan Edgar, Huw Lewis, Delyth Morris a Ned Thomas.

Ac mae’n fwriadol yn ceisio gofyn cwestiynau sy’n herio’r ‘status-quo’ pan yn trafod iaith yng Nghymru, yn ôl Brooks.

“Mae dwyieithrwydd yn tanseilio’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd, ond mae hyn wedi bod yn ‘taboo’ hyd yn hyn,” dadleuai Brooks.

“Yndi, mae’r gyfrol yn heriol, ond gobeithio’i bod yn codi cwestiynau caled, dwys ynglŷn a dyfodol yr iaith.

“Mae angen rhyw fath o diriogaeth ar yr iaith Gymraeg, ble mae’r Gymraeg yn iaith normal yn y gymdeithas honno – lle byddai croeso i bobl symud yno ond eu bod nhw’n derbyn ei fod yn ardal ble mae pethau’n cael ei wneud yn y Gymraeg yn unig.”

Mae ‘Pa beth yr aethoch allan i’w achub?’ yn cael ei lansio heno yn Nhafarn Penlan Fawr, Pwllheli.