Un o brotestiadau Llangyndeyrn
Mae wythnos o ddigwyddiadau i nodi llwyddiant trigolion Llangyndeyrn yn atal cynlluniau Corfforaeth Dd
ŵr Abertawe i foddi Cwm Gwendraeth Fach yn y chwedegau wedi cychwyn y prynhawn yma gyda agoriad swyddogol arddangosfa a the parti.

Roedd Cyngor Tref Abertawe eisiau creu argae i gyflenwi dŵr ar gyfer y dref trwy foddi y tir amaethyddol rhwng Llangyndeyrn a Phorthyrhyd sydd rhyw bum milltir i’r de o Gaerfyrddin ond roedd y gwrthwynebiad yn gryf iawn yn yr ardal a daeth y trigolion ynghyd i atal y cynllun.

Roedd llwyddiant yr ymgyrch “yn bwysiach na Thryweryn” yn ôl sylwadau Emyr Llewelyn ar raglen ar S4C gaiff ei darlledu heno (Sul) i nodi hanner can mlynedd ers y frwydr.

“Roedd eu safiad yn bwysicach na Thryweryn mewn gwirionedd achos doedden nhw ddim yn gweithredu fel unigolion ond fel cymuned gyda’i gilydd.

“Mae’n un o ddigwyddiadau pwysicaf y ganrif ddiwethaf o safbwynt amddiffyn hunaniaeth a’n cymdeithasau Cymreig,” meddai.

Llyfr, llun, pasiant a mwy

Bydd yr wythnos nesaf yn llawn digwyddiadau i nodi a dathlu’r fuddugoliaeth.

Nos Lun a nos Fawrth bydd plant yr ardal yn cyflwyno pasiant ‘Mewn Undod Mae Nerth’ ac yna nos Fercher cynhelir Noson Carped Coch i lansio ffilm Ysgol y Fro, ‘Yma o Hyd’ yn y Pafiliwn.

Nos Fercher cynhelir noson fawreddog yn cynnwys Neil Rosser a’i fand, cinio tri chwrs ac arwethiant ac yna dydd Sadwrn bydd yna Gyngerdd Mawreddog yng nghwmni Dafydd Iwan, Gwenda a Geinor a Lleisiau’r Cwm.

Bydd y rhaglen ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ yn recordio’r Gwasanaeth Diolchgarwch yn yr eglwys leol nos Sul nesaf.

Mae Gwasg y Lolfa hefyd yn cyhoeddi llyfr i adrodd hanes y frwydr sef ‘Sefyll yn y Bwlch”.