Emyr Llewelyn yn y 60au
Roedd llwyddiant trigolion Llangyndeyrn yn atal cynlluniau Corfforaeth Ddŵr Abertawe i foddi Cwm Gwendraeth Fach yn y chwedegau “yn bwysiach na Thryweryn” yn ôl sylwadau Emyr Llewelyn ar raglen ar S4C gaiff ei darlledu nos yfory (Sul) i nodi hanner can mlynedd ers y frwydr.
Roedd Cyngor Tref Abertawe eisiau creu argae i gyflenwi dŵr ar gyfer y dref trwy foddi y tir amaethyddol rhwng Llangyndeyrn a Phorthyrhyd sydd rhyw bum milltir i’r de o Gaerfyrddin.
Cafodd Emyr Llewelyn ei garcharu am achosi difrod i safle adeiladu’r argae yn Nhryweryn yn 1963 er mwyn achub Cwm Celyn ond mae’n credu nad yw Cymru yn llwyr sylweddoli gwerth yr hyn ddigwyddodd yn Llangynderyn.
“Dyma hanes cymuned o bobl gyffredin yn gweithredu gyda’i gilydd – nid mudiad gwleidyddol oedd hwn. Roedd eu safiad yn bwysicach na Thryweryn mewn gwirionedd achos doedden nhw ddim yn gweithredu fel unigolion ond fel cymuned gyda’i gilydd.
“Mae’n un o ddigwyddiadau pwysicaf y ganrif ddiwethaf o safbwynt amddiffyn hunaniaeth a’n cymdeithasau Cymreig.”
Dim digon o gydnabyddiaeth
Mae Huw Williams yn ffermio Pant-teg ac roedd yn un o’r rhai fu’n gwrthdystio hanner can mlynedd yn ôl.
Mae yntau hefyd yn credu nad yw achos Llangynderyn yn cael digon o gydnabyddiaeth.
“Fe fyddwn i wedi colli fy mywoliaeth i gyd – doedd ’da fi ddim byd i golli o frwydro. Yn bersonol, buaswn i wedi colli hanner can mlynedd o fywyd hapus a’r pleser o basio fe ‘mlaen i’r genhedlaeth nesaf.
“Rydym yn teimlo nad yw ein hachos ni wedi cael y sylw a gafodd Tryweryn. Fe fyddai’r difrod i’r gymuned yma wedi bod fil gwaeth na Thryweryn mewn niwed i amaethyddiaeth a chymdeithas. Saeson yn wir sydd wedi lladrata Tryweryn, Cymry sydd yma – rhyfel cartref mewn gwirionedd oedd hi.”
Digwyddiadau y dathlu
Bydd nifer o weithgareddau yn cael eu trefnu yn ystod yr wythnos nesaf i nodi’r frwydr. Bydd arddangosfa yn cael ei hagor a thê parti yn dilyn yfory cyn darlledu’r rhaglen ar S4C am 8.30yh.
Bydd cyfrol ‘Sefyll yn y Bwlch’ yn cofnodi hanes y frwydr hefyd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnos.
Mae rhagor o wybodaeth am y frwydr a’r www.llangyndeyrn.org