Murlun Siartwyr Casnewydd... wedi mynd
Mae trigolion Casnewydd ac aeloda o’r Blaid Werdd yng Nghymru wedi dweud y byddan nhw’n protestio rhagor yn erbyn cael gwared â murlun yn y ddinas.

Fe gafodd murlun mosaic o Siartwyr Casnewydd ei chwalu ddydd Iau, er mwyn gwneud lle i ganolfan siopa newydd.

Mae protestwyr wedi gofyn i bawb sy’n gwrthwynebu i wisgo dillad duon, er mwyn dangos eu bod mewn galar tros y penderfyniad.

Yn ôl Cyngor Dinas Casnewydd, roedd yn rhaid symud y wal a’r murlun er mwyn gwneud gwaith hanfodol i safle’r ganolfan siopa newydd cyn diwedd mis Hydref.