Y dorf yn mwynhau'r gyngerdd
Bydd cyfle i ail fyw’r hyn oedd nifer yn ei ystyried yn uchafbwynt yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ar S4C.

Bydd y sianel  yn darlledu uchafbwyntiau cyngerdd Edward H Dafis ar y Maes nos Sadwrn nesaf, 21 Medi.

Ac y mae un aelod o’r band yn gobeithio y bydd y gyngerdd yn arwain at ddychweliad rhai eraill o digwyddiadau mawr  y sin cerddorol yng Nghymru.

I lawer, heb os, y gyngerdd oedd uchafbwynt Eisteddfod Genedlaethol 2013. Pedwar deg mlynedd ers iddyn nhw berfformio yna am y tro cyntaf, roedd y band yn ôl yn Ninbych a doedd yr un ohonyn nhw wedi rhagweld y cynnwrf y byddai’r aduniad yn ei achosi.

Heidiodd 7,000 o bobl i’r Maes nos Wener yr Eisteddfod gydag un pwrpas yn unig, i weld Edward H yn chwarae. Yn ogystal â’r ffans gwreiddiol oedd am ail-fyw’r 70au, roedd y dorf yn gymysg o bobl ifanc a phlant fyddai’n profi perfformiad byw gan y grŵp am y tro cyntaf – a hynny, yn eironig ddigon, yn eu gig ola’ erioed.

Yn ol S4C bydd y  rhaglen yn gyfle i ail-fyw gwefr y noson: o gynnwrf y nerfau a’r disgwyliadau o flaen llaw, i adrenalin ac ias y gyngerdd ei hun, a chrynhoi ymateb y band a’r dorf ar y diwedd. Roedd hi’n noson i’w chofio.

Profiad bythgofiadwy

Meddai Cleif Harpwood, prif leisydd Edward H Dafis: “Cawsom y fath groeso gan y miloedd a ddaeth i’n gweld. Roedd yn brofiad bythgofiadwy ac ry’n ni’n hynod o ddiolchgar i bawb a fu’n bresennol am eu brwdfrydedd a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd.”

“Fe gymerodd y noson flwyddyn gron i ni ei threfnu – dwi ’mond yn gobeithio bydd y recordiad yn llwyddo i gyfleu naws ac asbri’r noson a oedd yn ddigwyddiad emosiynol iawn i ni fel band.”

Adfywiad?

Er ei fod yn credu bod y sin gerddoriaeth yng Nghymru yn iach iawn ar hyn o bryd, mae Cleif yn gobeithio y bydd llwyddiant cyngerdd Edward H yn arwain at adfywiad i’r digwyddiadau mawr ar y sin.

“Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith bod digwyddiadau fel hyn yn dal i fedru tynnu miloedd o Gymry Cymraeg at ei gilydd i ddathlu eu Cymreictod. Gobeithiwn, yn sgil noson 40 Edward H, weld atgyfodi gwyliau a phenwythnosau fel Tafodau Tân a Gig 50 Cymdeithas yr Iaith unwaith yn rhagor – a’r rheiny’n ddigwyddiadau rheolaidd bob blwyddyn,” meddai Cleif.