Mae Cheryl Gillian, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi galw am ddileu cynlluniau ei Llywodraeth i greu rheilffordd gwerth £50 biliwn i gysylltu Llundain a Birmingham.

“Mae’n hen bryn i ni ddod o hyd i gynllun fwy trwyadl a pharod i’r holl ardaloedd gan gynnwys Cymru, a fydd yn sicrhau cysylltiadau awyr, ffyrdd a rheilffyrdd,” meddai’r Aelod Seneddol.

Daw ei sylwadau wedi i’r Ysgrifennydd Gwladol Vince Cable dalu am ymchwil drudfawr gan KPMG er mwyn amddiffyn y bwriad i sefydlu system drenau cyflym yn 2026.

Mae Cheryl Gillian yn honni ei fod “wedi colli rheolaeth o gyllid y cynllun yn ogystal â’r ddadl yn erbyn teithio ar gyflymder o 250 milltir yr awr”.

Ddim yn rhoi gwerth am arian’

Mae arolwg o aelodau Sefydliad y Cyfarwyddwyr, grŵp blaenllaw ym myd busnes, eisoes wedi canfod mae dim ond 27% oedd yn credu y byddai HS2 yn rhoi gwerth am arian. Roedd 70% o’r farn na fyddai’r rheilffordd newydd yn cael unrhyw ddylanwad ar fyd busnes.

Mae’r Sefydliad Materion Economaidd wedi amcangyfrif y gallai’r gost gynyddu i £80 biliwn, ac mae adroddiadau bod y Trysorlys yn credu fod £73 biliwn yn nes ati.