Kindle
Mae cwmni Amazon wedi dweud eu bod nhw am ganiatáu gwerthu llyfrau Cymraeg ar declyn Kindle.

Ym mis Ebrill, roedd Garmon Gruffudd o’r Lolfa yn galw am ymgyrch i ddwyn pwysau ar Amazon ar ôl iddyn nhw ddweud nad oedden nhw’n medru cynnal llyfrau Cymraeg ar Kindle.

Y llynedd llwyddodd gwasg Y Lolfa i osod tua 30 o lyfrau Cymraeg ar werth trwy Kindle, ond nid oedd y  llyfrau wedi cael eu diweddaru eleni.

Erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, roedd gan yr ymgyrch ddeiseb gyda dros 5,000 o enwau arni  a dywedodd Garmon Gruffudd wrth Golwg360 bryd hynny ei fod yn annog pobl i gefnogi siopau llyfrau annibynnol Cymraeg yn hytrach na phrynu e-lyfrau Saesneg oddi ar Amazon.

Mae’r Gymraeg nawr yn ymuno a ieithoedd lleiafrifol eraill fel Cernyweg, Llydaweg, Catalaneg ac Albaneg ar restr iethoedd ‘derbynniol’ Kindle Digital Publishing.

Mae 113 o lyfrau Cymraeg ar gael i’w lawrlwytho ar Kindle ar hyn o bryd.

‘Wedi gwrando’

“Mae’n ymddangos bod Amazon nawr yn caniatáu gwerthu llyfrau Cymraeg sy’n newyddion da,” meddai Garmon Gruffudd.

“Maen nhw’n amlwg wedi gwrando ar y pwysau ac rydyn ni yn y Lolfa ar hyn o bryd yn llwytho rhagor o lyfrau, gan gynnwys cyhoeddiadau newydd, i siop Kindle.

“Er ein bod ni’n hapus eu bod nhw wedi newid eu meddwl rydyn ni’n dal i alw ar bobl i gefnogi siopau llyfrau annibynnol ond gan fod nifer o bobl yng Nghymru yn berchen ar Kindle, o leia’ nawr y byddan nhw’n gallu prynu llyfrau Cymraeg.”

Mae’r rhestr o lyfrau Cymraeg sydd ar gael ar Kindle ar gael yma: http://amzn.to/18ORpCU

Datganiad Amazon

Dywedodd Amazon mewn datganiad: “Rydym yn ymdrechu i gynnwys rhagor o ieithoedd drwy Kindle Digital Publishing ac mae’r Gymraeg yn un o’r ieithoedd rydym bellach yn gallu ei chefnogi.”

Carwyn Jones yn croesawu

Wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: “Mae’r ffaith y gall pobl sy’n berchen ar Kindle lawrlwytho llyfrau Cymraeg yn rhywbeth i’w groesawu’n fawr ac mae’n dangos awydd y cwmni i ymateb i alw gan gwsmeriaid.

“Er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu yn yr 21ain ganrif, mae’n rhaid bod y dechnoleg a’r cyfryngau digidol ar gael yn hawdd yn Gymraeg. Am y rheswm hwn felly y gwnaethon ni gais i Amazon ddileu’r gwaharddiad ar e-lyfrau Cymraeg a thrwy hynny sicrhau eu bod ar gael yn yr un modd â llyfrau mewn Basgeg, Galiseg a Chatalaneg.”