Logo'r hen ysgol
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Treganna yng Nghaerdydd wedi agor ei drysau am y tro cyntaf heddiw – dair blynedd ar ôl ffrae chwerw yn yr ardal.

Cafodd hen Ysgol Treganna ei chyfuno gydag Ysgol Tan yr Eos i sefydlu ysgol newydd ar Ffordd Sanatoriwm, Treganna, ar ôl i rieni fod yn ymgyrchu’n hir.

Ar un adeg – yn 2010 – roedd Llywodraeth Cymru wedi atal cynlluniau i gau ysgol Saesneg leol i wneud lle i’r ysgol Gymraeg, a hynny wedi creu rhwyg rhwng Llafur a Phlaid Cymru a oedd yn y glymblaid ar y pryd.

Yn y diwedd, fe benderfynodd Cyngor Dinas Caerdydd mai’r ateb oedd codi ysgol newydd sbon.

Costio £9 miliwn

Fe gostiodd y datblygiad tua £9 miliwn, a bydd rwan yn gallu ymdopi â nifer cynyddol y plant oedd yn mynd i’r ysgol. Erbyn 2012, roedd 208 o ddigyblion gyda lle i ddim ond 169.

Mae dalgylch yr ysgol newydd yn ymestyn o ardal Lansdowne Gardens yn y de i gaeau Llandaf a Heol Pencisely yn y gogledd, ac o Severn Road a Severn Grove yn y dwyrain i Heol Elái a Rhodfa’r Gorllewin.

Erbyn hyn, mae dadl arall wedi codi tros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd, wrth i rieni ymgyrchu am ysgol newydd yn Grangetown Threbiwt.