Golygydd presenol Golwg, Siân Sutton yn holi enillydd Llyfr y Flwyddyn, Heini Gruffudd yn Stafell Sgwrsio Gŵyl Golwg
Mae Gŵyl Golwg wedi bod yn llwyddiant mawr.

Daeth cannoedd o bobl o bell ac agos i Gampws Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi San yn Llanbed ddoe i ymuno â’r dathlu arbennig i nodi pen-blwydd y cylchgrawn Golwg yn 25 oed.

Mi roedd y rhaglen amrywiol yn amlwg wedi plesio. Un o’r sesiynau llenyddol mwyaf poblogaidd oedd y sgwrs ‘Y Stori Dditectif’ yng nghwmni Ed Thomas, Geraint Evans ac Ifan Morgan Jones.

Sgyrsiau digidol

Profodd y sgyrsiau digidol hefyd i fod yn hynod o boblogaidd yn enwedig y sgyrsiau yn trafod rhoi newyddion lleol trwy gyfrwng y Gymraeg ar lwyfan digidol. Roedd y sesiwn ‘Trydar Mewn Trawiadau” gyda Llion Jones hefyd yn hynod o boblogaidd.

Blinedig ond hapus

Mi roedd trefnwyr yr ŵyl yn flinedig heddiw ond wedi eu plesio’n arw gyda’r ymateb cadarnhaol i’r digwyddiad.

Meddai Owain Schiavone, Cydlynydd Gŵyl Golwg, “Fel cwmni, mae Golwg yn falch iawn fod cymaint o bobl wedi dod i ddathlu pen-blwydd y cylchgrawn, ac wedi bod mor gadarnhaol gyda’u hadborth ynglŷn â’r arlwy dros y penwythnos.”

“Gobeithio ein bod wedi llwyddo i adlewyrchu’r hyn mae’r cylchgrawn wedi rhoi llwyfan iddo dros y chwarter canrif diwethaf.

“Mae Golwg wedi rhoi llwyfan cyson i faterion cyfoes a’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae pobl wedi bod yn rhan fawr a phwysig a hynny – pobl sy’n creu digwyddiad hefyd a rhaid diolch i’r bobl gymerodd ran yng Ngŵyl Golwg, a ddaeth yno i fwynhau gan greu dathliad cofiadwy.”