Mae ffigyrau allan heddiw yn dangos bod gostyngiad o 9% wedi bod y llynedd yn y nifer a gafodd eu hanafu neu eu lladd ar ffyrdd Cymru.

Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, roeddd 93 o bobol wedi cael eu lladd ar ffyrdd Cymru yn ystod 2012, gostyngiad o 23% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Cafodd cyfanswm o 8,565 o bobol anafiadau, gyda gostyngiad o 16% o ran anafiadau difrifol.

Yn ôl y ffigyrau, Powys sydd â’r nifer fwyaf o ddioddefwyr anafiadau yn dilyn damweiniau ffyrdd, gyda Gwynedd yn ail.

Mae’r ffigyrau’n dangos bod cyfradd damweiniau yn uwch mewn ardaloedd gwledig gydag ardalodd dinesig megis Caerdydd a Thorfaen ar waelod y rhestr.

Croesawu

Mae’r gostyngiad yma wedi cael ei groesawu gan lefarydd Trafnidiaeth y Ceidwadwyr, Byron Davies AC.

“Mae’r ffigyrau yma yn rhai calonogol, yn dangos fod nifer sy’n dioddef anafiadau ar y ffyrdd yn parhau i ostwng,” meddai.

“Mae’r ffigyrau yn dangos bod y nifer sy’n dioddef anafiadau ar ffyrdd wedi haneru yn ystod y deng mlynedd diwethaf ym mhob categori o ddefnyddwyr ffyrdd ar wahân i ddefnyddwyr beiciau modur.”