Mae arbenigwraig ar fyd natur yn rhybuddio y gallai ffracio beryglu’r dolffiniaid prin ym Mae Ceredigion.

Fe allai’r sŵn sy’n cael ei achosi gan y broses effeithio ar y mamaliaid sensitif, meddai Miranda Krestovnikoff sy’n cyflwyno rhaglen deledu amdanyn nhw yr wythnos hon.

“Gallai’r hyn yr ’ych chi’n ei wneud yn un lle effeithio ar ddolffiniaid gannoedd o filltiroedd i ffwrdd,” meddai. “Mae sŵn yn teithio bum gwaith yn gynt o dan y dŵr nag yn yr awyr.

“Rhaid i ni fod yn ymwybodol o’r cythrwfl yr ydyn ni’n ei achosi yn eu hamgylchedd ac, ar yr wyneb, mae’n swnio’n debyg y gallai ffracio fod yn fygythiad i’r dolffiniiaid trwyn potel.”

Dolffiniaid Bae Ceredigion

Ym Mae Ceredigion y mae un o ddim ond dau grŵp parhaol o ddolffiniaid yng ngwledydd Prydain ac maen nhw a grŵp yn yr Alban yn fwy na dolffiniaid cyffredin, mae’n debyg oherwydd oerni’r dŵr.

“Fe fyddai’n ofnaswy pe baen ni’n sylweddoli un diwrnod nad oedd dolffiniaid ar ôl a dweud ‘efallai y dylen ni fod wedi meddwl ychydig mwy cyn gwneud yr holl ffracio yna,” meddai Miranda Krestovnikoff.