Fe fu farw’r athletwr paralympaidd, Chris Hallam o Cwmbran.

Roedd yn un o ffigurau chwedlonol chwaraeon paralympaidd yng Nghymru, a enillodd fedalau mewn rasio cadair olwyn ac am nofio. Yn ystod ei yrfa hir fel athletwr, fe fu’n cystadlu yng ngemau Paralympaidd Stoke Mandeville yn 1984, Seoul yn 1988, Barcelona yn 1992 ac Atlanta yn 1996.

Roedd hefyd wedi ennill marathon Llundain ddwywaith yn 1985 ac 1987, gan osod record ar y ddau achlysur. Roedd yn aelod o Dím Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Victoria, Canada, yn 1994.

Meddai John Harris, a oedd yn gyfaill ac yn gyd-gystadleuydd iddo:

“Chris oedd fy arwr. I mi Chris oedd y cyntaf o’r chwaraewyr proffesiynol go iawn mewn chwaraeon paralympaidd. Roedd yn gyfaill annwyl a colled fawr ar ei ôl ymysg pawb a oedd yn ei adnabod.”

Diolch i ymdrechion y ddau ohonyn nhw i godi arian trwy deithio o gwmpas Cymru mewn cadair olwyn, cafodd canolfan chwaraeon hygyrch ei hadeiladu yng Nghaerdydd yn 1997.