Y wal cyn y fandaleiddio
Mae cofeb enwog ar gyrion pentref Llanrhystud ger Aberystwyth wedi ei fandaleiddio.

Ar y wal gyda’r geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ mae rhywun wedi ychwanegu llun o wyneb gyda gwên a’r llythrennau ‘JK’.

Mae’r gofeb yno i goffau boddi Tryweryn yn 1965 er mwyn creu argae i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl.

Meddai Aelod Seneddol Ceredigion, Mark Williams: “Boed y drwgweithredwyr yn lleol neu’n ymweld â’r ardal, mae’n amlwg nad oes ganddyn nhw unrhyw ddealltwriaeth na gwerthfawrogiad o neges hanesyddol y wal na’r angerdd dwfn sydd yn cael ei deimlo ynghylch Tryweryn. Rydw i’n eu condemnio nhw’n llwyr.

“Dyma fandliaeth ddireswm ac mae’n hollol gywilyddus, ond rwy’n syfrdan – er gwaethaf fandaleiddio tebyg yn y gorffennol – nad ydy Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy i amddiffyn un o’n trysorau cenedlaethol mwya’ eiconaidd.”