Clirio'r gwersylloedd yn Cairo ddoe
Mae gŵr ifanc 21 oed o Lambed yn ddiogel ac yn aros efo ffrind mewn rhan ddiogel o ddinas Cairo.

Fe wnaeth Harri Davies, sydd newydd raddio yn y gyfraith o Brifysgol Bryste, hedfan i Cairo ddydd Llun i aros efo ffrind sy’n gyfreithwraig yno.

Ddoe fe wnaeth llywodraeth dros-dro  yr Aifft awdurdodi’r heddlu i glirio protestwyr o ddau wersyll yn y brifddinas a chyhoeddi stad o argyfwng am fis  yn Cairo oherwydd y trafferthion yno.

Roedd y protestwyr yn cefnogi’r cyn-Arlywydd Morsi ac mae’r awdurdodau wedi cadarnhau bod dros 500 bellach wedi eu lladd yn y terfysg er bod y Frawdoliaeth Fwslimaidd, sy’n galw am ail-sefydlu Mohammed Morsi yn honni bod y gwir ffigwr yn llawer uwch.

Harri

Mae Harri yn fab i Nigel a Sian Davies sydd yn berchen cwmni peiriannau amaethyddol Gwili Jones yn Llambed.

“Rwy’ wedi siarad efo Harri’r bore yma ar Skype,” meddai Sian Davies.

“Mae’n ddiogel a’r ochr arall i’r ddinas o’r terfysg sy’n gysur i mi fel mam. Mae yng nghwmni Isobel, ei ffrind, a phobl leol.”

Dywedodd Nigel Davies nad yw ei fab yn mentro allan o’r tŷ ac ychwanegodd  Sian Davies bod Harri yn honni nad yw pethau cynddrwg yn Cairo a’r hyn sy’n cael ei adrodd yn y cyfryngau.

Mae disgwyl i Harri hedfan yn ôl adref ddydd Llun nesaf.