Dug a Duges Caergrawnt gyda'u babi
Fe fydd sawl ymwelydd ychwanegol yn Sioe Môn heddiw – y Tywysog William a’i swyddogion diogelwch.

Y disgwyl yw y bydd y Tywysog – Dug Caergrawnt – yn ymweld â’r sioe amaethyddol i wylio ychydig o’r arddangosfeydd ac i sgwrsio gyda chynrychiolwyr lleol, gan gynnwys ffermwyr ifanc.

Mae dyfalu hefyd mai dyma fydd ei ymddangosiad swyddogol ola’ yn yr ardal cyn gadael RAF Y Fali, lle mae wedi bod yn beilot hofrenyddion.

Fe fydd cyhoeddiad am ei ddyfodol yn cael ei wneud yn ystod yr hydref – mae’n debyg o gael ei anfon yn ôl i wasanaethu gyda’i gatrawd yn Llundain.

Roedd ganddo ef a’i wraig, Kate Middleton, dŷ yn yr ynys ond fe aeth hithau yn ôl i Lundain i eni eu babi cynta’, y Tywysog George.

Sioe Môn yw’r fwya’ yng ngogledd Cymru ac mae fel rheol yn denu tua 55,000 o bobol.