Lansio Golwg ar Gymru
Mae’r Lolfa wedi lansio llyfr sy’n dathlu 25 mlwyddiant y cylchgrawn Golwg a hynny ar Faes yr Eisteddfod, lle cafodd y cylchgrawn ei gyhoeddi gynta’ yn 1988.

Mae’r gyfrol yn cynnwys pigion o luniau, cloriau, erthyglau nodwedd a cholofnau’r chwarter canrif – o gau’r pyllau glo ola’ hyd at achos llofruddiaeth April Jones, o ddarogan enwogrwydd i’r chwaraewr pêl-droed Ryan Giggs pan oedd yn llanc, i wneud yr un peth gyda Gareth Bale.

“Mae’n cyfleu ysbryd chwarter canrif gyfan,” meddai golygydd gwreiddiol y cylchgrawn, Dylan Iorwerth, sydd bellach yn Olygydd Gyfarwyddwr y cwmni.

Newid

Roedd yr erthyglau’n cyfleu rhywfaint o’r amrywiaeth mawr yn y cylchgrawn, meddai Dylan Iorwerth, sydd hefyd wedi golygu’r gyfrol.

“Mae’n dangos fel y mae rhai pethau wedi newid yn sylfaenol – y dechnoleg er enghraifft – a rhai straeon yn aros gyda ni o hyd.”

Roedd is-olygydd celfyddydau gwreiddiol y cylchgrawn, Menna Baines, yno hefyd i hel atgofion am ei swydd gynta’. Mae hi bellach yn un o olygyddion Barn.

Mae’r llyfr, Golwg ar Gymru, ar werth am £9,95.