Mae’r Heddlu yn Ninbych yn annog pobl i beidio â mynychu rêf anghyfreithlon sydd i fod i gael ei gynnal ar gyrion y dref y penwythnos yma, sef penwythnos agoriadol yr Eisteddfod Genedlaetholyn yr ardal.

Mae’r Heddlu wedi derbyn gwybodaeth bod cynlluniau ar droed i gynnal  ‘Lovely Lughnassa 2013’ yn ardal Dinbych a bod y trefnwyr wedi bod yn gwerthu tocynnau ac yn ceisio recriwtio staff.

Mae’r digwyddiad hefyd wedi cael ei hysbysebu ar safleoedd rhyngweithio cymdeithasol.

Bydd Eisteddfod Genedlaethol Dinbych a’r Cylch yn cychwyn heno ar safle sydd ar gyrion y dref.

“Ein pryder pennaf yw diogelwch y cyhoedd – nid yn unig pobl sy’n byw wrth ymyl y safle ond hefyd y rhai sy’n bwriadu mynychu” meddai’r Arolygydd Ardal, Siobhan Edwards.

“Mae rêfs anghyfreithlon yn gallu bod yn beryglus ac mae angen eu trwyddedu er mwyn diogelu’r rhai sy’n mynychu.”

Ychwanegodd: “Gall y digwyddiadau hyn achosi difrod ac aflonyddwch difrifol ac nid ydyn nhw’n cael eu rheoli o gwbl o safbwynt iechyd a diogelwch.  Maen nhw hefyd yn cael effaith fawr ar y cymunedau cyfagos.”

Bydd yr heddlu’n cynnal patrolau yn yr ardal a bydd unrhyw un sy’n mynychu yn cael hysbysiad Adran 63 yn eu gorchymyn i adael.

Mewn rhai achosion mewn rhannau eraill o’r wlad mae rêfs anghyfreithlon wedi denu cannoedd o bobl.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog unrhyw un sy’n bryderus bod rêf yn cael ei drefnu, neu ei gynnal, neu sy’n gweld niferoedd mawr o bobl yn ymgasglu mewn lleoliadau anghysbell i gysylltu â’r heddlu ar unwaith drwy ffonio 101.